Eicon
Gwedd

Mae eicon (o'r Groegaidd εἰκών, eikōn, "delwedd") yn ddarn o gelf grefyddol, paentiad gan amlaf, yn nhraddodiad yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol. Defnyddir y term yn fwy cyffredinol mewn amrywiaeth o gyd-destunau pan yn sôn am ddelwedd, llun neu gynrychioliad; arwydd neu debygrwydd ydyw sy'n cynrychioli gwrthrych; defnyddir y term eicon hefyd yn ein diwylliant fodern i gynrychioli symbol o rhyw fath e.e. enw, wyneb, llun neu hyd yn oed person a gydnabyddir sy'n ymgorffori rhyw nodweddion penodol.