Neidio i'r cynnwys

European Digital Rights

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o EDRI)
European Digital Rights
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhyngwladol, carfan bwyso Edit this on Wikidata
Rhan odigital rights movement Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluMehefin 2002 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAccess Now, ALCEI, Alternative informatics association, Association for Technology and Internet, ARTICLE 19, Bits of Freedom, Centrum Cyfrowe, Chaos Computer Club, CILD, Committee to Protect Journalists, D3 - Digital Rigths, digitalcourage, Digitale Gesellschaft, FIfF, Gesellschaft für Freiheitsrechte, Wikimedia Deutschland, epicenter.works, Quintessenz, Verein für Internet-Benutzer Österreichs, Digital Society, La Quadrature du Net, Foundation for Information Policy Research, Open Rights Group, Statewatch Edit this on Wikidata
Prif weithredwrClaire Fernandez Edit this on Wikidata
Map
Ffurf gyfreithiolinternational non-profit association Edit this on Wikidata
PencadlysDinas Brwsel Edit this on Wikidata
RhanbarthDinas Brwsel Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://edri.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cymdeithas ddi-elw sy'n amddiffyn hawliau sifil yn y maes digidol yn Ewrop yw European Digital Rights (EDRI). Fe'i sefydlwyd ym mis Mehefin 2002 pan ddaeth sawl mudiad preifatrwydd a hawliau sifil Ewropeaidd at ei gilydd. Mae'n gymdeithas ddi-elw ryngwladol a gofrestrwyd yng Ngwlad Belg yn 2003. Erbyn hyn ceir 29 aelod llawn sy'n cydweithredu er mwyn gwarchod hawliau pobl yn yr oes ddigidol wrth i'r rheolau ynghylch y rhyngrwyd, hawlfraint a phreifatrwydd yn Ewrop neu o'r tu allan i Ewrop, ond gan effeithio arni'n uniongyrchol, gynyddu.[1]

Mae EDRI yn monitro datblygiadau ym mhob un o 45 gwlad Cyngor Ewrop ac ar draws Ewrop gyfan. Mae enghreifftiau o'r pethau dan sylw'r sefydliad yn cynnwys gorfodaeth cadw data (data retention) ar gyflenwyr gwasanaeth rhyngrwyd (ISPs), sbam, rhwystro telegyfathrebu, cyfyngiadau hawlfraint a defnydd teg, y 'Cytundeb seibr-drosedd',[2] ac asesu, ffiltrio a blocio gwefannau gan lywodraethau trwy orfodaeth ar ISPau.[1]

Aelodau

[golygu | golygu cod]

Yn 2010 roedd 29 sefydliad mewn 18 gwlad Ewropeaidd yn aelodau o EDRI.[3]

  • Association for Technology and Internet (APTI) - Romania
  • ALCEI - Yr Eidal
  • Associação Nacional para o Software Livre (ANSOL) - Portiwgal
  • Bits of Freedom - Yr Iseldiroedd
  • Chaos Computer Club (CCC e.V.) - Yr Almaen
  • Comunicació per a la Cooperació (Pangea) - Sbaen
  • Digital Rights - Denmarc
  • Digital Rights - Iwerddon
  • Electronic Frontier Finland (EFFI) - Y Ffindir
  • Electronic Frontier Foundation (EFF) - UDA, gyda Swyddfa Ewropeaidd yng Ngwlad Belg
  • Electronic Frontier Norway (EFN) - Norwy
  • Foebud - Yr Almaen
  • Förderverein Informationstechnik und Gesellschaft (FITUG e.V.) - Yr Almaen
  • Forum InformatikerInnen für Frieden und gesellschaftliche Verantwortung (FIfF e.V.) - Yr Almaen
  • Foundation for Information Policy Research (FIPR) - DU
  • GreenNet - DU
  • Internet Society Bulgaria
  • The IT-Political Association of Denmark (IT-Pol) - Denmarc
  • Iuridicum Remedium - Gweriniaeth Tsiec
  • Imaginons un Réseau Internet Solidaire (IRIS) - Ffrainc
  • Liga voor Mensenrechten - Gwlad Belg
  • Metamorphosis - Macedonia
  • Netzwerk Neue Medien (NNM e.V.) - Yr Almaen
  • Nodo50.org - Sbaen
  • Open Rights Group - DU
  • Panoptykon Foundation - Gwlad Pwyl
  • quintessenz - Awstria
  • VIBE!AT - Awstria
  • Vrijschrift - Yr Iseldiroedd

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Gwybodaeth ar wefan EDRI.
  2. 'Cybercrime treaty' Archifwyd 2011-05-18 yn y Peiriant Wayback, EDRI.
  3. Aelodau, EDRI.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]