Llywodraeth seneddol
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Democratiaeth seneddol)
Ffurf ar lywodraeth a chanddi adran weithredol sy'n cael ei gyfreithlondeb democrataidd o senedd neu gynulliad deddfu tebyg yw llywodraeth seneddol neu ddemocratiaeth seneddol. Fel arfer, corff etholedig ydy'r ddeddfwrfa, a'i swyddogaethau yw craffu ar ddeddfwriaeth ac awdurdodi'r gyfraith statudol, arolygu a rheoli gwariant cyhoeddus, goruchwylio gweithgareddau'r adran weithredol, a chynrychioli etholwyr y wlad. Mae'r mwyafrif o lywodraethau seneddol yn defnyddio pwyllgorau i graffu ar ddeddfwriaeth a phroses y gyllideb. Yn y mwyafrif o systemau seneddol, mae swyddogion yr adran weithredol, hynny yw gweinidogion y llywodraeth, yn aelodau'r senedd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ David Robertson, The Routledge Dictionary of Politics 3ydd argraffiad (Llundain: Routledge, 2004), tt. 368–9.