Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig
Enghraifft o'r canlynol | cyngor, sefydliad a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig |
---|---|
Rhan o | system y Cenhedloedd Unedig, Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig |
Dechrau/Sefydlu | 15 Mawrth 2006 |
Rhagflaenwyd gan | Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol |
Isgwmni/au | Y gweithgor ar wahaniaethu yn erbyn menywod, Q129910021 |
Pencadlys | Genefa |
Enw brodorol | United Nations Human Rights Council |
Gwefan | https://www.ohchr.org/en/hrbodies/hrc/home |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Corff rhyng-lywodraethol o fewn y Cenhedloedd Unedig sy'n cynnwys 47 gwladwriaeth sy'n gyfrifol am gryfhau hyrwyddo ac amddiffyn hawliau dynol o gwmpas y byd yw Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig neu CHDCU (Saesneg: United Nations Human Rights Council neu UNHRC; Ffrangeg: Conseil des droits de l'homme des Nations Unies neu CDHNU). Crewyd y Cyngor gan Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 15 Mawrth 2006 gyda'r prif fwriad o ymchwilio i sefyllfaoedd lle torrir hawliau dynol a gwneud awgrymiadau i ddatrys y problemau.[1] Mae'n cwrdd yn Ninas Efrog Newydd. Navi Pillay yw'r Uwch Gomisiynydd Hawliau Dynol presennol.
Yn ogystal â chynnal cyfarfodydd cyffredinol, mae CHDCU o bryd i'w gilydd yn cynnal sesiynau arbennig i drafod materion brys. Pwnc y 9fed Sesiwn Arbennig a agorwyd ar 9 Ionawr 2009 oedd "The grave violations of human rights in the Occupied Palestinian Territory including the recent aggression of the occupied Gaza Strip",[2] i drafod y sefyllfa ddynol yn Llain Gaza a'r cyhuddiadau fod Israel yn euog o gyflawni trosedd rhyfel yn erbyn y Palesteiniaid yn ei ymosodiad ar y diriogaeth honno.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan CHDCU". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-30. Cyrchwyd 2009-01-10.
- ↑ "The grave violations of human rights in the Occupied Palestinian Territory including the recent aggression of the occupied Gaza Strip" CHDCU.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) (Ffrangeg) Gwefan CHDCU Archifwyd 2008-12-30 yn y Peiriant Wayback