Sarah Jane Rees (Cranogwen)
Sarah Jane Rees | |
---|---|
Ffugenw | Cranogwen |
Ganwyd | 9 Ionawr 1839 Llangrannog |
Bu farw | 27 Mehefin 1916 Cilfynydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor, golygydd |
Ysgolfeistres a llenor o Gymru oedd Sarah Jane Rees, a adnabyddwyd fel Cranogwen (9 Ionawr 1839 – 27 Mehefin 1916). Fe'i ganwyd yn Llangrannog, Ceredigion, ble bu'n byw am y rhan fwyaf o'i bywyd. Bu hefyd yn gweithio fel darlithydd a phregethwr, a hi oedd golygydd Y Frythones (1878-1891), yr ail gylchgrawn Cymraeg i ferched.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Bywyd Cynnar (1839-60)
[golygu | golygu cod]Ganwyd Sarah Jane Rees (a enwyd ar ôl ei mamgu) ym mis Ionawr 1839 ar fferm "Dolgoy Fach" ym mhlwyf Llangrannog. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Huw Dafis, mewn hen ysgubor leol, ac wedi cyfnod byr yn astudio gwnïo yn Aberteifi, cytunodd ei thad y cai fynd gydag ef i weithio ar y môr, a hithau ond yn bymtheg oed ar y pryd. Bu'n gweithio fel morwr ar longau masnach y glannau am tua dwy flynedd, cyn dychwelyd i fyd addysg. Bu'n astudio mewn nifer o lefydd cyn cael ei Thystysgrif Meistr mewn mordwyo o Lundain, oedd yn llwyddiant tra anghyffredin i ddynes ar y pryd.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ni phriododd Cranogwen erioed; ei chymydog, Jane Thomas, oedd ei chymar oes, a hi oedd testun un o gerddi mwyaf personol Cranogwen, 'Fy Ffrynd', a gynhwysai linellau megis 'Dy ddilyn heb orphwyso wna/ Serchiadau pura'm calon'[1]. Roedd cyfeillgarwch ramantaidd rhwng merched yn eithaf cyffredin ar y pryd, ac yn cael ei dderbyn gan nad oedd syniadau Fictorianaidd am rywioldeb yn cydnabod bodolaeth lesbiaeth. Mae geiriau'r gerdd yn awgrymu fod mwy i'w perthynas na chyfeillgarwch yn unig, ac wedi marwolaeth rhieni Cranogwen, bu'r ddwy yn byw gyda'i gilydd am ugain mlynedd olaf ei bywyd.
Cyfnod fel athrawes (1860-66)
[golygu | golygu cod]Yn 1860, dychwelodd i fro ei magwraeth i weithio fel ysgolfeistres yn ysgol bentref Pontgarreg. Er fod rhai wedi beirniadu'r penderfyniad i roi'r swydd i ferch, yn enwedig merch mor ifanc (roedd hi'n 21 mlwydd oed ar y pryd), buan yr enillodd barch am ei gallu i gadw disgyblaeth, a'r hyfforddiant a roddai mewn mordwyo i fechgyn ifanc yr ardal oedd a'u bryd ar fynd yn llongwyr.
Llwyddiant Eisteddfodol a gyrfa fel darlithydd a phregethwr (1865-1879)
[golygu | golygu cod]Daeth Cranogwen i sylw Cymru gyfan am y tro cyntaf drwy ennill gwobr am y gerdd 'Y Fodrwy Briodasol' yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1865, gan guro Ceiriog ac Islwyn. Yn sgil hyn, dechreuodd ddarlithio o amgylch Cymru ar nifer o destunau gwahanol. Gan fod Cymru newydd brofi Diwygiad 1859, dyma gyfnod cyfarfodydd mawr y capeli, a daeth darlithoedd Cranogwen mor boblogaidd nes iddi roi'r gorau i'w gwaith yn yr ysgol yn 1866.
Yn y cyfnod yma hefyd, daeth yn bregethwraig enwog, mewn cyfnod pan oedd yn anarferol iawn i ferched bregethu - cododd hyn wrychyn nifer, gyda rhai dynion yn mynd cyn belled â gwrthod pregethu yn yr un oedfa â hi. Serch hyn, parhaodd y tyrfaoedd i heidio i wrando arni, ac yn 1869 derbyniodd wahoddiad i ddarlithio yn yr Unol Daleithiau. Bu yn yr UDA am dros flwyddyn, gan deithio hyd a lled y wlad, a bu'n darlithio ar destunau megis 'Tu hwnt i'r Mynyddoedd Creigiog' (disgrifiad o beth welodd yn ardal y Rockies) wedi iddi ddychwelyd.
Y Frythones (1879-1889)
[golygu | golygu cod]Yn 1879 sefydlodd Cranogwen gylchgrawn Y Frythones i 'ymddangos mewn bwlch ar y mur a fu drwy y blynyddoedd yn cael ei esgeuluso'[2], gan mai hwn oedd y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i ferched ers i gylchgrawn Y Gymraes, dan olygyddiaeth Ieuan Gwynedd ddod i ben yn 1852. Yn wahanol i'r Gymraes, merched oedd y mwyafrif helaeth o gyfranwyr Y Frythones, ac roedd hi'n amlwg fod Cranogwen yn teimlo cyfrifoldeb am addysgu 'merched a gwragedd' y wlad trwy gyfrwng y cylchgrawn. Ceid nifer o erthyglau'n rhoi cyngor, megis Anerchiad Hen Chwaer, Gair at Ferched Ieuainc a Gair at Ferched Cymru, yn ogystal a'r golofn reolaidd Cwestiwn ac Ateb, lle ymatebai Cranogwen (yn aml yn ffraeth) i broblemau merched ifanc Cymru.
Roedd hi hefyd o ddifrif am annog merched ifanc i ysgrifennu a darganfod eu lleisiau. Ymddangosai colofn Ein Gohebwyr Ieuainc yn rheolaidd, a roedd cystadlaethau traethawd misol hefyd. Bu'n dweud y drefn yn dilyn un cystadleuaeth yn 1879 - 'Deuwch ferched, ym mha le yr ydych? Bechgyn yw y rhan amlaf o ysgrifwyr, a gwyddoch mai arnoch chwi yn bennaf yr oedd ein golwg.'[2]
Camodd yn ôl o'i dyletswyddau golygyddol ddiwedd yr 1880au, ond parhaodd Y Frythones nes 1891.
Gwaith Dirwestol (1880au-1916)
[golygu | golygu cod]Roedd dirwest yn bwnc a drafodwyd nifer o weithiau ar dudalennau'r Frythones, a parhaodd Cranogwen a'i gwaith ymgyrchu wedi ei chyfnod gyda'r cylchgrawn. Ym mis Mawrth 1901, sefydlodd Undeb Dirwestol i Ferched y Ddwy Rondda, a newidiodd ei enw i Undeb Dirwestol Merched y De yn Ebrill y flwyddyn honno. Bu'n Ysgrifenyddes y Mudiad am bymtheg mlynedd, nes gorfod rhoi'r gorau iddi oherwydd gwaeledd. Cyn ei marwolaeth ym Mehefin 1916, roedd Cranogwen wedi cychwyn ar y gwaith o sefydlu lloches i ferched oedd yn dioddef o broblemau yfed a digartrefedd, ac erbyn 1922, roedd merched y Rhondda wedi llwyddo i gasglu'r cyllid a phrynu thŷ addas; agorwyd Llety Cranogwen er cof amdani yn y Rhondda ym mis Mehefin y flwyddyn honno.
Marwolaeth a choffa
[golygu | golygu cod]Mae wedi ei chladdu yn eglwys plwyf ei phentref genedigol, Llangrannog. Yn ei ysgrif goffa yn Y Goleuad, nododd y Parch J. Jenkyns Jones mai 'Cymeriad ar ei phen ei hun ydoedd - yr oedd yn eithriad ymysg ei rhyw.'
Mae yna long patrôl pysgodfeydd sy'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru o Aberdaugleddau wedi'i chael ei enwi ar ôl Cranogwen.[3]
Yn 2019 roedd Rees ymhlith pum menyw ar y rhestr fer fel testun gwaith celf i’w osod yng Nghaerdydd.[4] Ym mis Rhagfyr 2021 comisiynwyd Sebastien Boyesen i greu cerflun ffigurol o Cranogwen yn Llangrannog, y trydydd a gomisiynwyd gan ymgyrch cerflun Merched Mawreddog (Monumental Welsh Women).[5] Cafodd y cerflun ei ddadorchuddio mewn seremoni i goffau ei bywyd ar 10 Mehefin 2023.[6]
Delweddau
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Gwaith Cranogwen
- Caniadau Cranogwen (1870)
- Gweithiau amdani
- D. G. Jones, Cofiant Cranogwen (Bangor, d.d. = 1920s?)
- Gerallt Jones, Cranogwen (1982)
- ‘Cranogwen’ yn Mamwlad: Merched Dylanwadol Cymru, Beryl H. Griffiths (Gwasg Carreg Gwalch)
- Cranogwen: A Pioneering Preacher | welldigger (daibach-welldigger.blogspot.com)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rees, Sarah Jane. Caniadau Cranogwen. Dolgellau.
- ↑ 2.0 2.1 BRYTHONES. (1879–89). Y Frythones. cyf. 1. rhif 1-cyf. 6. rhif 12: cyf. 9. [rhif] 1-cyf. 14. [rhif] 12. 1 onawr-Tachwedd 1884: Ionawr 1887-Rhagfyr 1889. OCLC 558717169.CS1 maint: date format (link)
- ↑ Cymru, Llywodraeth. Business Justification Case (BJC) for the replacement of Fisheries At-Sea Enforcement Assets for the Marine and Fisheries Division. https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2020-12/atisn14432doc1.pdf.[dolen farw]
- ↑ "BBC - Hidden Heroines / Merched Mawreddog". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-15.
- ↑ "Penodi Sebastien Boyesen i greu cerflun Cranogwen". BBC Cymru Fyw. 2021-12-01. Cyrchwyd 2023-10-15.
- ↑ "Dadorchuddio cerflun o'r bardd Cranogwen yn Llangrannog". BBC Cymru Fyw. 2023-06-10. Cyrchwyd 2023-10-15.