Neidio i'r cynnwys

Coetir

Oddi ar Wicipedia
Coetir
Mathendid tiriogaethol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llwybr Coed Pen-y-bont yn arwain o Lyn Tegid, enghraifft o goetir Cymreig
Mynedfa i Coetir Barc Coetir Bargod a blannwyd ar ben safle glofeydd Bargoed a Britannia collieries a'u tipiau gwastraff (2013)

Mae coetir hefyd tir coediog yn dir wedi'i orchuddio â choed yn yr ystyr eang,[1] neu mewn ystyr cul, yn gyfystyr â choedwig dwysedd isel yn ffurfio cynefinoedd agored gyda digon o olau haul a chysgod cyfyngedig. Gall rhai safana hefyd fod yn goetiroedd, fel coetir safana, lle mae coed a llwyni yn ffurfio canopi golau.[2]

Gall coetiroedd gynnal isdyfiant o lwyni a phlanhigion llysieuol gan gynnwys gweiriau. Gall coetir drawsnewid i lwyni dan amodau sychach neu yn ystod camau cynnar olyniaeth gynradd neu eilaidd. Cyfeirir yn aml at ardaloedd o goed dwysedd uwch gyda chanopi caeedig i raddau helaeth sy'n darparu cysgod helaeth a bron yn barhaus fel coedwigoedd.

Gwnaed ymdrechion helaeth gan grwpiau cadwraethol i gadw coetiroedd rhag trefoli ac amaethyddiaeth.

Coetir yn y Gymraeg

[golygu | golygu cod]
Coetir agored yn Illinois, yr Unol Daleithiau

Ceir y cyfeiriad archifiedig cynharaf o'r gair coetir yn y Gymraeg o lawysgrif Brut y Tywysogion yn 14g lle gwelr, "amvydawd holl deuheubarth ay gwraged ... hyt goetir [afon] tywi".[3]

Yn 2020 sefydlodd Llywodraeth Cymru rwydwaith Coedwig Genedlaethol i Gymru sy'n ymestyn dros 12 o safleoedd ar draws Cymru. Yn ôl y naturiaethwr, Iolo Williams, "bydd Coedwig Genedlaethol i Gymru yn cysylltu ein coetiroedd hynafol a newydd, yn dod â diwylliant ein gorffennol a'n presennol i fywyd i ddathlu Cymru fel gwlad wedi ei chyfoethogi gan ei choetiroedd".[4]

Eco-ranbarthau coetir

[golygu | golygu cod]

Ceir gwahanol fathau o goetiroedd ar draws y byd, i gyd wedi eu haddasu a datblygu yn ôl yr hinsawdd a'r tirwedd. Mae'n cynnwys prysglwyni ("shrub") [5] a'r prysg ("scrub")[6] Gellir eu dosbarthu'n fras fel:

  • Glaswelltiroedd trofannol ac isdrofannol, safana, a phrysglwyni
  • Glaswelltiroedd tymherus, safana, a phrysglwyni
  • Glaswelltiroedd mynyddig a phrysglwyni
  • Coedwigoedd, coetiroedd a phrysg Môr y Canoldir
  • Anialwch a phryslwyni xeric (xeric o'r Hen Groegeg xērós, “sych")

Cysyniad yng Nghymru a Phrydain

[golygu | golygu cod]

Mae coetir yn wahanol i'r goedwig gan nad yw'r brigau coed yn ffurfio gorchudd di-dor — hynny yw, mae'r coed ymhellach oddi wrth ei gilydd. Gyda llaw, mae'r Ffrancwyr yn ei alw'n Forêt claire, felly yn goedwig denau. Ceisir cyfuno cadwraeth a datblygu coetiroedd gyda'r diwydiant ac arferion rheoli amaethyddiaeth.[7]

Defnyddir coetir wrth reoli coetiroedd ym Mhrydain i olygu ardaloedd â gorchudd coed a gododd yn naturiol ac a gaiff eu rheoli wedyn, tra bod coedwigoedd yn cael eu defnyddio fel arfer yn Ynysoedd Prydain i ddisgrifio planhigfeydd, fel arfer yn fwy helaeth, neu goedwigoedd hela, sy'n ddefnydd tir â diffiniad cyfreithiol ac efallai nad yw'n goediog o gwbl.[8] Defnyddir y term coetir hynafol mewn cadwraeth natur ym Mhrydain i gyfeirio at unrhyw dir coediog sydd wedi bodoli ers 1600, ac yn aml (ond nid bob amser) ers miloedd o flynyddoedd, ers yr Oes Iâ ddiwethaf[8] (sy'n cyfateb i'r term Americanaidd 'old growth forest').

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Definition of Woodland". Lexico (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 15, 2020. Cyrchwyd 2020-01-15.
  2. Smith, Jeremy M.B.. "savanna". Encyclopedia Britannica, 5 Sep. 2016, https://www.britannica.com/science/savanna/Environment. Accessed 8 February 2023.
  3. "coetir". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 11 Mai 2023.
  4. "Croeso i Goedwig Genedlaethol i Gymru". Sianel Youtube Llywodraeth Cymru. 2021.
  5. "shrub". Termau Cymru. Cyrchwyd 11 Mai 2023.
  6. "scrub". Termau Cymru. Cyrchwyd 11 Mai 2023.
  7. "Dulliau rheoli Coetir". Cyswllt Ffermio. 2021. Cyrchwyd 11 Mai 2023.
  8. 8.0 8.1 Rackham, Oliver (2006). Woodlands (New Naturalist 100). London: HarperCollins. ISBN 9780007202447.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.