Antoon van Dyck
Antoon van Dyck | |
---|---|
Ganwyd | Anthonio 22 Mawrth 1599 Antwerp |
Bu farw | 9 Rhagfyr 1641 Llundain, Blackfriars |
Dinasyddiaeth | yr Iseldiroedd Sbaenaidd |
Galwedigaeth | arlunydd, ysgythrwr, dramodydd, cyfarwyddwr theatr, cyfieithydd, dramodydd, arlunydd llys, drafftsmon, drafftsmon |
Swydd | arlunydd llys |
Adnabyddus am | Jupiter ac Antiope, Siarl Iaf yn Hela, Siarl iaf mewn 3 safle |
Arddull | portread (paentiad), paentiadau crefyddol, paentiad mytholegol, alegori, peintio hanesyddol, portread, peintio lluniau anifeiliaid |
Prif ddylanwad | Peter Paul Rubens |
Mudiad | paentiadau Baróc |
Tad | Franchois Van Dyck |
Mam | Maria Cuypers |
Priod | Mary Ruthven |
Partner | Margaret Lemon |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
llofnod | |
Arlunydd o Fflandrys a ddaeth yn arlunydd y llys brenhinol yn Lloegr oedd Antoon van Dyck, hefyd wedi ei Seisnigo i Anthony van Dyck ac amrywiadau eraill (22 Mawrth 1599 – 9 Rhagfyr 1641).[1]
Ganed Van Dyck yn Antwerp i rieni cefnog. Astudiodd arlunio dan Hendrick van Balen, a daeth yn arlunydd annibynnol erbyn tua 1615. O fewn ychydig flynyddoedd daeth yn brif gynorthwydd i Peter Paul Rubens.
Aeth i Loegr am gyfnod yn 1620, lle bu'n gweithio i Iago I, brenin Lloegr a'r Alban, yna bu yn yr Eidal o ddiwedd 1621 hyd 1627, gan weithio yn Genova yn bennaf. Dychwelodd i Lundain yn 1632, lle bu'n gweithio i'r brenin Siarl I fel prif arlunydd y llys. Mae'n adnabyddus am ei bortreadau o Siarl I a'i deulu.
Cymerwyd ef yn wael ym Mharis yn 1641, a bu farw yn fuan ar ôl dychwelyd i Lundain.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Anthony van Dyck". Netherlands Institute of Art (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Mawrth 2021.