Neidio i'r cynnwys

Americanwyr Cymreig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Americanwr Cymreig)
Map yn dangos dwysedd poblogaeth Americanwyr a ddatganodd llinach Gymreig yn y cyfrifiad. Dynodir dwysedd uwch gan liwiau coch tywyll a brown.

Dinasyddion yr Unol Daleithiau gyda'u llinach yn tarddu o Gymru yw'r Americanwyr Cymreig, a gant hefyd eu disgrifio fel pobol Cymreig-Americanaidd.

Bu o leiaf 8 Arlywydd o dras Gymreig gan gynnwys: Thomas Jefferson,[1][2] Abraham Lincoln, John Adams, John Quincy Adams, a James Garfield. Roedd Arlywydd y Gynghrair: Jefferson Davis hefyd o dras CGymreig.[3]

Nifer yr Americanwyr Cymreig

[golygu | golygu cod]

Yng Nghyfrifiad 2000, nodir llinach Gymreig gan 1.7 miliwn o Americanwyr,[4] sef 0.6% o holl boblogaeth yr Unol Daleithiau. Mae hyn yn cymharu gyda phoblogaeth o 2.9 miliwn yng Nghymru.

Serch hyn, y cyfenw mwyaf cyffredin ond tri yn America yw Jones, a ystirir yn enw Cymreig. Mae gan dros 0.6% o Americanwyr y cyfenw hwn,[5] sydd yn awgrymu bod cyfradd uwch o linach Gymreig na ddynodir gan hunan-adnabyddiaeth os cynhwysir cyfenwau Cymreig eraill megis Jenkins, Williams, Edwards ac Evans. Ond mae'n rhaid cofio bod cyfran uchel o'r boblogaeth Affro-Americanaidd gyda chyfenwau Cymreig oherwydd creu cyfenwau o enwau cyntaf eu tadau (e.e. John ⇒ Jones) mewn ffordd debyg i'r arfer Cymreig, ac mae cenedlaethoedd hir wedi defnyddio cyfenwau cyn-berchenogion eu hynafiaid yn dilyn rhyddfreiniad y caethweision.

Diwylliant Cymreig yn yr Unol Daleithiau

[golygu | golygu cod]

Mae gan Siroedd Jackson a Gallia, Ohio, ddylanwad Cymreig cryf, ac yn aml gelwir yr ardal yn "Geredigion Fychan". Lleolir Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymraeg (The Madog Center for Welsh Studies) ym Mhrifysgol Rio Grande, sydd yn yr ardal yma.

Mewnfudo o Gymru

[golygu | golygu cod]
Hysbyslen ddwyieithog o 1841 sy'n rhoi gwybod i Gymry sy'n dymuno ymfudo am fordeithiau o Aberteifi i Lerpwl ac oddi yno i Efrog Newydd a Philadelphia.

Ers canrifoedd bu hanes Madog – mab Owain Gwynedd, Tywysog Gwynedd – a'i daith ac arhosiad yn America yn cael ei adrodd i Gymry ifainc, ond heddiw ystirir y straeon i fod heb unrhyw sylfaen hanesyddol.

Yn yr ail ganrif ar bymtheg, mudodd nifer enfawr o Grynwyr Cymreig i Bennsylvania, lle sefydlwyd y Tract Cymreig. Erbyn 1700, roedd tua traean poblogaeth y drefedigaeth (amcangyfrifwyd yn 20 000) yn Gymry. Mae nifer o enwau lleoedd Cymraeg yn yr ardal yma. Bu ail don o fewnfudo yn hwyr yn yr 18ed ganrif, a ddangosir yn enw'r wladfa Gymreig enwog 'Cambria a sefydlwyd gan Morgan John Rhys yn beth sydd nawr yn Cambria County, Pennsylvania.

Daeth tyrfâu o fewnfudwyr o Gymru i'r Unol Daleithiau yn y 19eg ganrif, yn enwedig i Ohio. Dywedir bod gan tua 20% o boblogaeth Utah hynafiaid Cymreig.

Ffermwyr oedd mwyafrif y cyfaneddwyr Cymreig ar ddechrau'r 19eg ganrif, ond nes ymlaen bu mewnfudo gan löwyr i feysydd glo Ohio a Phennsylvania a chan chwarelwyr llechfaen o Ogledd Cymru i'r ardal Slate Valley ("Dyffryn Llechfaen") yn Vermont a Thalaith Efrog Newydd.

Erbyn canol y 19eg ganrif, sefydlwyd Dinas Malad, Idaho. Dechreuodd fel gwladfa i Gymry Mormonaidd, ac heddiw mae'n enwog oherwydd bod mwy o ddisgynyddion Cymreig y pen yno nag yn unrhyw le arall y tu allan i Gymru.[6] Lliwiau'r ysgol uwchradd leol yw rhai baner Cymru a llysenw'r ysgol yw "Dreigiau Malad".

Pennsylvania

[golygu | golygu cod]
Bwthyn yn Coulsontown, Pennsylvania a adeiladwyd gan chwarelwyr o Gymru.

Erbyn 1700, roedd traean (33%) poblogaeth y dalaith yn Gymry. Ceir llawer o enwau lleoedd Cymraeg a Chymreig yma hyd heddiw - sy'n dyst i'r gwladychu hwn. Yn niwedd y 18ed cafwyd ail don o wladychu, wedi'i harwain gan Morgan John Rhys i Cambria ac a elwir heddiw yn 'Swydd Cambria' (Cambria Country). Ar fur ddwyreiniol Neuadd y Dref yn Philadelphia, er enghraifft, ceir plac sy'n cynnwys y geiriau hyn:

Perpetuating the Welsh heritage, and commemorating the vision and virtue of the following Welsh patriots in the founding of the City, Commonwealth, and Nation: William Penn, 1644-1718, proclaimed freedom of religion and planned New Wales later named Pennsylvania. Thomas Jefferson, 1743-1826, third President of the United States, composed the Declaration of Independence. Robert Morris, 1734-1806, foremost financier of the American Revolution and signer of the Declaration of Independence. Governor Morris, 1752-1816, wrote the final draft of the Constitution of the United States. John Marshall, 1755-1835, Chief Justice of the United States and father of American constitutional law.

Dyma gyrchfan poblogaidd iawn gan Gymry'r 19eg ganrif. Yr adeg honno roedd tuag 20% o boblogaeth Utah yn Gymry gyda'r rhan fwyaf yn ffermwyr, ac yna cafwyd mewnfudo sylweddol gan löwyr y De i lofeydd Ohio a Pennsylvania a chwarelwyr llechi Gogledd Cymru i'r hyn a elwid yn "Slate Valley", yn Vermont a Thalaith Efrog Newydd.

Sefydlwyd Malad City, Idaho tua chanol y 19eg ganrif gan Gymry a oedd yn Formoniaid; mae eu disgynyddion heddiw'n mynnu fod mwy o Gymry yn y dalaith hon (per capita) nag yn unman arall y tu allan i Gymru.[7]

Tennessee

[golygu | golygu cod]

Yn dilyn y Rhyfel Cartref symudodd 104 teulu Cymraeg o Bennsylvania i ddwyrain Tennessee - i ran o'r enw Mechanicsville, a rhan o ddinas Knoxville. Fe'u cyflogwyd gan y brodyr Joseph a David Richards (a John H. Jones) i weithio mewn ffatri fetel. Roedd y brodyr wedi sefydlu Gwaith Haearn Knoxville gerllaw rheilffordd yr "L&N Railroad", ar safle a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach fel safle ar gyfer y "1982 World's Fair". Mae'r hen ffowndri, a ddefnyddir heddiw fel tŷ-bwyta, yn dal i sefyll; yr unig ddarn.

Codwyd capel Cymraeg ganddynt, gyda'r Parchedig Thomas Thomas yn weinidog arno yn 1870. Gwerthwyd y capel yn 1899.

Daeth y gwladychwyr Cymreig hyn yn llwyddiannus iawn yn yr ardal gan sefydlu sawl busnes arall yn y ddinas, gan gynnwys y cwmni oedd yn gyfrifol am greu cerbydau rheilffordd, cwmni llechi (a thoi), cwmni marmor a sawl cwmni gwneud dodrefn. Erbyn 1930, roedd plant y teuluoedd wedi lledaenu drwy'r ddinas a siroedd eraill megis "Sevier County". Heddiw, mae dros 250 teulu'n olrhain eu hachau i'r mewnfudwyr cyntaf hynny ac maent yn parhau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Dydd Gŵyl Dewi

[golygu | golygu cod]
Adeilad Empire State gyda lliwiau baner Cymru (gwyn, coch a gwyrdd).

Dathlir Dydd Gŵyl Dewi gan nifer o Americanwyr Cymreig. Cafodd Adeilad Empire State ei oleuo gyda lliwiau baner Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006.[8]

Dylanwad ar wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau

[golygu | golygu cod]

Roedd llinach gymreig gan rhwng traean a hanner o lofnodwyr Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau. Mae cartiau achau Hillary Clinton, Thomas Jefferson, George Washington, Abraham Lincoln, Al Gore a George W. Bush yn cynnwys Cymro neu Gymraes. Dywedodd Arlywydd Bush ym Mawrth 2006: "Mae mewnfudwyr Cymreig ac Americanwyr Cymreig wedi gwneud cyfraniadau enfawr i drefn lywodraethol America."[8]

Yn etholiad 1860 (ag enillwyd gan y Gweriniaethwr Lincoln), argraffodd y Gweriniaethwyr 100 000 o bamffledi etholiadol Cymraeg, a dosbarthwyd nhw i'r Cymry Cymraeg er mwyn ennill pleidleisiau.[9]

Americanwyr Cymreig enwog

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cofeb I Ddathlu Cysylltiad Bwysig Gyda'r Unol Daleithiau[dolen farw] oddai ar wefan Amgueddfa Cymru
  2. Presidential connection Archifwyd 2009-11-12 yn y Peiriant Wayback BBC Cymru (Saesneg)
  3. ""The Education of a Southern Gentleman: Jefferson Davis"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-31. Cyrchwyd 2009-04-02.
  4. Ystadegau Llinachau Cyfrifiad 2000 Archifwyd 2020-02-12 yn archive.today(Saesneg)
  5. Ystadegau Enwau Cyfrifiad 1990(Saesneg)
  6. "Gwyl Gymreig mewn tref yn America", BBC, 21 Gorffennaf, 2005.
  7. Tiny US town's big Welsh heritage, bbc.co.uk
  8. 8.0 8.1 "Parc Disney yn dathlu Gwyl Dewi", BBC, 2 Mawrth, 2006.
  9. "Dylanwad Cymry ar Etholiad 1860", BBC, 2 Tachwedd, 2004.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]