Afon Aman
Gwedd
Afon Aman ger Rhydaman | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Afon Llwchwr |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7801°N 3.9937°W |
Tarddiad | Mynydd Du |
Aber | Afon Llwchwr |
Afon yn Sir Gaerfyrddin, de-orllewin Cymru yw Afon Aman (Ffurf Saesneg: River Amman).
Mae'n un o ledneintiau Afon Llwchwr. Gorwedd ei tharddle yn y Mynydd Du. Mae'n llifo oddi yno trwy Ddyffryn Aman i'w chymer ag Afon Llwchwr ger Pantyffynnon.
Gwelir enw'r afon yn enw tref Rhydaman ac enw pentrefi Pontaman, Glanaman, Brynaman a Rhosaman. Gorwedd y Garnant a'r Betws ar lan afon Aman hefyd.