Oes Elisabeth
Math o gyfrwng | oes |
---|
Cyfnod yn hanes Lloegr a barodd teyrnasiad y Frenhines Elisabeth I (1558–1603), yr olaf o'r Tuduriaid, oedd Oes Elisabeth. Portreadir y cyfnod hwn yn aml gan hanesyddion fel oes aur yn hanes Lloegr. Defnyddiwyd personoliad Britannia am y tro cyntaf yn 1572, ac yn aml wedi hynny, i nodi Oes Elisabeth fel adfywiad a ysbrydolai balchder cenedlaethol yn y Sais trwy ddelfrydau clasurol, fforio a threfedigaethu tramor, a buddugoliaeth ar y môr yn erbyn Sbaen. Dadleua'r hanesydd John Guy (1988) bod "Lloegr yn economaidd iachach, yn ehangach ei nerth, ac yn fwy gobeithiol o dan y Tuduriaid" nag ar unrhyw adeg mewn mil o flynyddoedd.[1]
Cynrychiolodd yr "oes aur"[2] hon anterth y Dadeni yn Lloegr, ym mha cyfnod blodeuai barddoniaeth a rhyddiaith yn yr iaith Saesneg, y theatr, a cherddoriaeth. Campau enwocaf yr oes yw'r dramâu arloesol gan William Shakespeare ac eraill. Y tu hwnt i ffiniau'r deyrnas, cyfnod ydoedd o fforio'r Byd Newydd, ehangu nerth y llynges, a sefydlu gwladfeydd a llwybrau masnach newydd. Yn Lloegr ei hun, daeth y Diwygiad Protestannaidd yn fwy derbyniol i'r werin, yn sicr wedi methiant Armada Sbaen i oresgyn y wlad. Teyrnasiad Elisabeth hefyd oedd yr adeg ddiweddaraf pan oedd brenhiniaeth neilltuol gan Loegr, cyn iddi uno â choron yr Alban o ganlyniad i esgyniad Iago VI, brenin yr Alban yn frenin Lloegr yn 1603.
Gellir cyferbynnu Oes Elisabeth yn eglur â theyrnasiadau'r Tuduriaid cynt ac Oes Iago a'i ddilynodd. Cyfnod byr o heddwch ydoedd, rhwng helyntion y Diwygiad yn Lloegr a'r rhyfeloedd gwleidyddol a chrefyddol ar draws Prydain ac Iwerddon yn Oes y Stiwartiaid yn yr 16g. Cafodd y ddadl rhwng Protestaniaid a Catholigion Lloegr ei llonyddu am genhedlaeth neu ddwy gan sefydlogi Eglwys Loegr, neu'r Setliad Elisabethaidd, ac nid oedd y senedd eto yn ddigon cryf i herio absoliwtiaeth y frenhiniaeth.
Roedd Lloegr hefyd yn gefnog o'i chymharu â gwledydd eraill Ewrop yn niwedd yr 16g. Daeth y Dadeni i ben yn yr Eidal o ganlyniad i oruchafiaeth Sbaen ar ddinas-wladwriaethau'r wlad honno. Cyfres o ryfeloedd a gwrthryfeloedd crefyddol oedd yn trafferthu Ffrainc, nes i'r sefyllfa yn y wlad gael ei heddychu am dro gan Orchymyn Nantes (1598). Oherwydd hyn, yn ogystal â llwyddiant y tercios Sbaenaidd wrth yrru'r Saeson ymaith y cyfandir, cafwyd gohiriad yn y gwrthdaro rhwng Lloegr a'i hen elyn Ffrainc trwy'r rhan fwyaf o deyrnasiad Elisabeth.
Prif elyn Lloegr felly oedd Sbaen, a ffrwydrodd rhyfel rhyngddynt yn y cyfnod 1585–1604 o ganlyniad i ysgarmesau yn Ewrop a'r Amerig. Methodd Felipe II, brenin Sbaen, oresgyn Lloegr a diorseddu Elisabeth gyda'i Armada yn 1588, ond er buddugoliaeth enwog y Saeson yn yr achos hwnnw trodd y rhyfel yn eu herbyn yn sgil alldaith aflwyddiannus ganddynt i Bortiwgal a'r Azores yn 1589. Wedi hynny, rhoddodd Sbaen rywfaint o gefnogaeth i Gatholigion Iwerddon mewn gwrthryfel gwan yn erbyn tra-arglwyddiaeth Lloegr dros yr ynys honno, a llwyddodd llynges a byddinoedd Sbaen atal sawl ymosodiad gan y Saeson. Treth gyson ar y Trysorlys oedd y rhyfel, gan wanhau'r economi a gafodd ei hadfywio gan Elisabeth ar ddechrau ei theyrnasiad. Roedd ymdrechion Lloegr i ledaenu ei nerth masnachol ac ehangu ei thir yn gyfwng tan i'r rhyfel dod i ben yn sgil Cytundeb Llundain (1604).
Llywodraeth ganolog, trefnus, ac effeithiol oedd gan Deyrnas Lloegr yn ystod y cyfnod hwn, yn bennaf o ganlyniad i ddiwygiadau Harri VII a Harri VIII, yn ogystal â chosbau llym Elisabeth ar gyfer unrhyw wrthwynebwyr. O ran yr economi, dechreuodd y wlad elwa'n fawr o'r cyfnod newydd o fasnachu dros yr Iwerydd a dwyn trysor oddi ar longau Sbaen.
Rhamant a realiti
[golygu | golygu cod]Cafodd Oes Elisabeth ei hedmygu a'i gwneud yn ddelfryd yn ystod Oes Fictoria a dechrau'r 20g yn Lloegr. Mynnai'r Encyclopædia Britannica, taw "teyrnasiad hir Elisabeth I, 1558–1603, oedd Oes Aur Lloegr [...] mynegodd "Lloegr Lawen" ei hunan, gyda'i chariad at yr einioes, drwy gyfrwng cerdd a llên, yn ei phensaernïaeth ac wrth antur ei mordeithiau".[3] Rhennid y tueddfryd delfrydol hwn gan Brydeinwyr rhonc a seisgarwyr o'r Unol Daleithiau a gwledydd eraill. Portreadir y ddelwedd hon o forwyr Oes Elisabeth gan Hollywood mewn ffilmiau Errol Flynn.[4]
Fel ymateb i'r camddarlun hwn, mae hanesyddion a bywgraffyddion modern yn tueddu i ymdrin â chyfnod y Tuduriaid, gan gynnwys Oes Elisabeth, yn fwy gwrthrychol.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ John Guy, Tudor England (Rhydychen: Oxford University Press, 1988), t. 32 ISBN 0192852132
- ↑ From the 1944 Clark lectures by C. S. Lewis; Lewis, English Literature in the Sixteenth Century (Oxford, 1954) p. 1, OCLC 256072
- ↑ Elizabeth I ac Oes Aur Lloegr Lloegr . Gwyddoniadur Myfyrwyr Britannica
- ↑ Gweler The Private Lives of Elizabeth and Essex (1939) a The Sea Hawk (1940).
- ↑ Patrick Collinson (2003). "Elizabeth I and the verdicts of history". Historical Research 76 (194): 469–91. doi:10.1111/1468-2281.00186.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Arnold, Janet: Queen Elizabeth's Wardrobe Unlock'd (W S Maney and Son Ltd, Leeds, 1988) ISBN 0-901286-20-6
- Ashelford, Jane. The Visual History of Costume: The Sixteenth Century. 1983 edition (ISBN 0-89676-076-6)
- Bergeron, David, English Civic Pageantry, 1558–1642 (2003)
- Black, J. B. The Reign of Elizabeth: 1558–1603 (2nd ed. 1958) survey by leading scholar online edition Archifwyd 2012-05-22 yn y Peiriant Wayback
- Digby, George Wingfield. Elizabethan Embroidery. New York: Thomas Yoseloff, 1964.
- Elton, G.R. Modern Historians on British History 1485-1945: A Critical Bibliography 1945-1969 (1969), annotated guide to history books on every major topic, plus book reviews and major scholarly articles; pp 26–50, 163-97. online
- Fritze, Ronald H., ed. Historical Dictionary of Tudor England, 1485-1603 (Greenwood, 1991) 595pp.
- Hartley, Dorothy, and Elliot Margaret M. Life and Work of the People of England. A pictorial record from contemporary sources. The Sixteenth Century. (1926).
- Hutton, Ronald:The Rise and Fall of Merry England: The Ritual Year, 1400–1700, 2001. ISBN 0-19-285447-X
- Morrill, John, ed. The Oxford illustrated history of Tudor & Stuart Britain (1996) online; survey essays by leading scholars; heavily illustrated
- Shakespeare's England. An Account of the Life and Manners of his Age (2 vol. 1916); essays by experts on social history and customs vol 1 online
- Singman, Jeffrey L. Daily Life in Elizabethan England (1995) online edition Archifwyd 2008-04-10 yn y Peiriant Wayback
- Strong, Roy: The Cult of Elizabeth (The Harvill Press, 1999). ISBN 0-7126-6493-9
- Wagner, John A. Historical Dictionary of the Elizabethan World: Britain, Ireland, Europe, and America (1999) online edition Archifwyd 2005-05-15 yn y Peiriant Wayback
- Wilson, Jean. Entertainments for Elizabeth I (Studies in Elizabethan and Renaissance Culture) (2007)
- Wright Louis B. Middle-Class Culture in Elizabethan England (1935) online edition
- Yates, Frances A. The Occult Philosophy in the Elizabethan Age. London, Routledge & Kegan Paul, 1979.
- Yates, Frances A. Theatre of the World. Chicago, University of Chicago Press, 1969.