Cap marwol
Gwedd
Cap marwol | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Fungi |
Rhaniad: | Basidiomycota |
Dosbarth: | |
Urdd: | Agaricales |
Teulu: | Amanitaceae |
Genws: | Amanita |
Rhywogaeth: | A. phalloides |
Enw deuenwol | |
Amanita phalloides (Vaill. ex Fr.) Link |
Ffwng gwenwynig o'r genws Amanita yw'r cap marwol (Amanita phalloides). Mae'n gynhenid i Ewrop a gogledd-orllewin Affrica ac mae wedi cael ei gludo yn ddamweiniol i rannau eraill o'r byd. Mae'n tyfu o dan coed, yn arbennig derw a ffawydd.
Mae'n mesur 5–15 cm ar draws y cap sy'n wyrdd golau. Mae'r goes yn wen ac yn cyrraedd taldra o 15 cm. Mae gan y goes fodrwy o'i chwmpas a gorchuddiwyd gwaelod y goes gan goden a adwaenir fel folfa.
Un o'r ffyngau mwyaf gwenwynig yn y byd yw'r cap marwol. Mae'n cynnwys sawl tocsin megis α-amanitin sy'n niweidio'r afu a'r arennau.