Neidio i'r cynnwys

Alun Cairns

Oddi ar Wicipedia
Alun Cairns
Alun Cairns


Cyfnod yn y swydd
19 Mawrth 2016 – 6 Tachwedd 2019
Prif Weinidog David Cameron
Rhagflaenydd Stephen Crabb

Cyfnod yn y swydd
15 Gorffennaf 2014 – 19 Mawrth 2016
Rhagflaenydd Stephen Crabb
Olynydd Guto Bebb

Cyfnod yn y swydd
6 Mai 1999 – 6 Mai 2011

Deiliad
Cymryd y swydd
7 Mai 2010
Rhagflaenydd John Smith

Geni (1970-07-30) 30 Gorffennaf 1970 (54 oed)
Abertawe
Plaid wleidyddol Y Blaid Geidwadol
Alma mater Prifysgol Caerdydd

Aelod o'r Blaid Geidwadol, a chyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw Alun Hugh Cairns (ganed 30 Gorffennaf 1970). Cynrychiolodd Ranbarth Gorllewin De Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o 1999 hyd 2011. Roedd yn Aelod Seneddol dros Fro Morgannwg yn 2010 a 2024.[1]

Cafodd ei benodi'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 19 Mawrth 2016 ac ymddiswyddodd ar 6 Tachwedd 2019 yn dilyn ffrae am ei gyn-ymgynghorydd oedd wedi dymchwel achos llys.

Magwraeth a choleg

[golygu | golygu cod]

Magwyd ef yng Nghlydach, Abertawe, a mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe ac Ysgol Gyfun Ystalyfera. Enillodd radd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA) ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd.[2] Wedi graddio ymunodd gyda Banc Lloyds am gyfnod.

San Steffan

[golygu | golygu cod]

Safodd yn aflwyddiannus ar ran y Blaid Geidwadol yng Ngŵyr yn 1997 ac eilwaith ym Mro Morgannwg yn 2015 ac eto yn 2007. Fe'i etholwyd yn 2000 fel yr aelod dros Fro Morgannwg gyda mwyafrif o 4,307 dros Lafur. Collodd ei sedd yn Etholiad Cyffredinol 2024.

Daeth yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 19 Mawrth 2016 gan wasanaethu o dan Brif Weinidogion Cameron, Mai a Johnson yn dilyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

Ymddiswyddiad

[golygu | golygu cod]

Yn Nhachwedd 2019, roedd yn y newyddion oherwydd ei gefnogaeth i'w gyn-ymgynghorydd Ross England.[3] Cyhuddwyd England gan farnwr o danseilio a dymchwel achos llys yn ymwneud â threisio. Er hynny, cefnogodd England fel ymgeisydd i'r Blaid Geidwadol ar gyfer y Cynulliad. Roedd y dioddefwr yn yr achos o drais yn arfer gweithio yn swyddfa etholaethol Cairns, a galwodd arno i ymddiswyddo. Gwadodd Mr Cairns ei fod yn gwybod am ran Ross England yn yr achos ond daeth yn amlwg fod Cairns wedi cael llythyr am yr achos yn Awst 2018.[4]

Daeth pwysau gan y cyhoedd a gwleidyddion eraill iddo ymddiswyddo yn arwain at Etholiad Cyffredinol 2019. Toc wedi hanner dydd ar 6 Tachwedd, fe ymddiswyddodd fel Ysgrifennydd Gwladol.[5]

Cynulliad Cenedlaethol

[golygu | golygu cod]
  • safodd yn llwyddiannus yn etholiadau'r Cynulliad yn 1999 gan gynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr[6],
  • bu hefyd yn llwyddiannus ar Restr Rhanbarth Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007, gan gynrychioli Gorllewin De Cymru gyda Peter Black a Dr. Dai Lloyd.
  • Fe'i ail-etholwyd i'r sedd yn 2003 ac yn 2007 gan gael ei benodi'n llefarydd ei blaid dros datblygiad diwydiannol a chludiant am wyth mlynedd.

Ar 14 Mehefin 2008 ymddiswyddodd o Gabined yr wrthblaid wedi iddo wneud sylwadau dadleuol ar Radio Cymru ond ail-gymrodd ei le yn Hydref y flwyddyn honno, yn dilyn ymchwiliad.[7] Gwnaed y sylwadau ar raglen wythnosol Dau o'r Bae, pan ymddiheurodd am alw Eidalwyr yn greasy wops.[8] Ymddiswyddodd o'r Cabined yn dilyn y rhaglen.[9][10]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Ysgrifennydd Cymru a thri rhagflaenydd yn colli eu seddi Cymreig". newyddion.s4c.cymru. 2024-07-05. Cyrchwyd 2024-07-05.
  2.  BBC News AMs profile: Alun Cairns. BBC (12 Mai 1998).
  3. Y pwysau’n cynyddu ar Alun Cairns i sefyll i lawr , Golwg360, 6 Tachwedd 2019.
  4. 'Anodd iawn i Alun Cairns arwain ymgyrch y Ceidwadwyr' , BBC Cymru Fyw, 6 Tachwedd 2019.
  5. Alun Cairns yn ymddiswyddo wedi ffrae Ross England , BBC Cymru Fyw, 6 Tachwedd 2019.
  6. "BBC News AMs profile". BBC. 12 Mai 1998. Cyrchwyd 16 Hydref 2015.
  7. "Greasy wops slur Tory is general election candidate". Wales Online. 22 Hydref 2008. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2008. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  8. "Tory candidate apologises for 'greasy wops' comment". The Guardian. London. 14 Mehefin 2008. Cyrchwyd 23 Ebrill 2010.
  9. http://icwales.icnetwork.co.uk/news/wales-news/2008/06/14/tory-resigns-over-greasy-wops-remark-91466-21075874
  10. "Tory suspended as party candidate". BBC Online. 15 Mehefin 2008. Cyrchwyd 15 Mehefin 2008. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Aelod Cynulliad dros Ranbarth Gorllewin De Cymru
19992011
Olynydd:
Byron Davies
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Smith
Aelod Seneddol dros Fro Morgannwg
20102024
Olynydd:
Kanishka Narayan


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.