Neidio i'r cynnwys

Radar

Oddi ar Wicipedia
Antena radar taith pell a adnabyddir fel ALTAIR, i ganfod taflegrau yn Safle Profi Taflegrau Balistig Roanald Regan, Kwajalein Atoll
Antena radar taith pell a adnabyddir fel ALTAIR.
Radar symudol byddin israel, gyda'i antena'n troi'n araf er mwyn canfod awyrennau a thaflegrau o wahanol gyfeiriad ac uchder.
Radar symudol byddin israel, gyda'i antena'n troi'n araf er mwyn canfod awyrennau a thaflegrau o wahanol gyfeiriad ac uchder.

System sy'n defnyddio tonnau i ddarganod gwrthrychau yw Radar sy'n acronym o RAdio Detection And Ranging.[1][2] Gall ddarganfod pellter, uchder, cyfeiriad a chyflymder y gwrthrych. Crëwyd radar yn wreiddiol i ganfod cychod a llongau ac yna awyrennau, taflegrau, cerbydau modur, ffurfiau tywydd megis trowyntoedd a hyd yn oed ffurf a siap y tirwedd. Edward George Bowen o Abertawe a fu'n gyfrifol am ddyfeisio radar a fedrai ganfod awyrennau; bu'n arwain tîm o wyddonwyr yn 'Bawdsey Manor', Suffolk, ac yna yn Washington a Sydney ble y cododd delesgop radar 210 troedfedd yn Parkes yn Ne Cymru Newydd.

Mae dysgl neu antena'r radar yn trosglwyddo pylsiau, tonnau radio neu ficrodonnau sydd yn y man yn bownsio'n ôl o unrhyw wrthrych sydd yn eu llwybr. Mae'r rhan o egni'r don yn bownio'n ôl i ail ddysgl neu antena sydd fel arfer wedi'i lleoli yn yr un lle a'r trosglwydddydd.

Datblygwyd radar yn gyfrinachol gan sawl gwlad ychydig cyn (ac yn ystod) yr Ail Ryfel Byd. Bathwyd y gair yn 1940 gan Lynges yr Unol Daleithiau.[3][4]

Mae'r defnydd modern o'r cyfarpar hwn yn eang iawn ac mae'n cynnwys: rheolaeth traffig, seryddiaeth, systemau amddiffyn gwledydd, systemau gwrth-daflegrau, monitro meteorolegol ac astudiaethau daearegol, darganfod targedau, a cheir radar tanfor i ganfod tirwedd gwely'r môr a llongau tanfor yn ogystal â'r radar ar gyfer archwilio'r gofod.

Antena radar arbrofol; Labordy Morwrol yr UDA yn Anacostia, D. C., diwedd y 1930s

Dangosodd y ffisegydd Almaenig Heinrich Hertz mor gynnar â 1866 y gellir adlewyrchu tonnau radio o wrthyrychau solad. Bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach, yn 1896, nododd y Rwsiad Alexander Popov, tra'n mesur pellter llongau, y gellid defnyddio ei gyfarpar i ganfod llongau na ellid eu gweld gyda'r llygad noeth. Ysywaeth, ni ddatblygodd y cyfarpar ymhellach.[5]

Yr Almaenwr Christian Hülsmeyer oedd y cyntaf i ddefnyddio tonnau radio i ddarganfod gwrthrychau metalaidd pell. Yn 1904 dangosodd y gallu i ddarganfod cwch mewn niwl tew, ond methodd gyfrifo'r pellter.[6] Cofrestrodd batent[7] ar gyfer ei ddyfais newydd yn Ebrill 2904 ac yna ail batent[8] am estyniad i'w ddyfais a oedd yn mesur pellter y llong. Sicrhaoedd ar 23 Medi batent Prydeinig am y ddyfais gyfan[9] a alwodd yn telemobiloscope.

Cymhwyso i'r byd modern

[golygu | golygu cod]

Ar wahân i'r cymhwysiadau uchod, defnyddir radar heddiw oddi fewn i 'wn cyflymder' yr heddlu.

Yn Ionawr 2015 datgelwyd yn Uchel Lys yr Unol Daleithiau fod dros 50 o awdurdodau heddlu'r wlad, ers dwy flynedd, wedi bod yn defnyddio Range-R i 'weld' drwy waliau adeiladau.[10]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Translation Bureau (2013). "Radar definition". Public Works and Government Services Canada. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-04. Cyrchwyd Tachwedd 8, 2013.
  2. McGraw-Hill dictionary of scientific and technical terms / Daniel N. Lapedes, golygydd. Lapedes, Daniel N. New York ; Montreal : McGraw-Hill, 1976. [xv], 1634, A26 tud.
  3. Translation Bureau (2013). "Diffinad o Radar". Public Works and Government Services Canada. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-04. Cyrchwyd 8 Tachwedd 2013.
  4. McGraw-Hill dictionary of scientific and technical terms / Daniel N. Lapedes, editor in chief. Lapedes, Daniel N. New York ; Montreal : McGraw-Hill, 1976. [xv], 1634, A26 tud.
  5. Kostenko, A. A., A. I. Nosich, and I. A. Tishchenko, "Radar Prehistory, Soviet Side," Proc. of IEEE APS International Symposium 2001, vol.4. p. 44, 2003
  6. Christian Hülsmeyer gan Radar World
  7. Patent DE165546; Verfahren, um metallische Gegenstände mittels elektrischer Wellen einem Beobachter zu melden.
  8. Verfahren zur Bestimmung der Entfernung von metallischen Gegenständen (Schiffen o. dgl.), deren Gegenwart durch das Verfahren nach Patent 16556 festgestellt wird.
  9. GB 13170  Telemobiloscope
  10. www.indystar.com; adalwyd 20 Ionawr 2015