Kentchurch
Gwedd
![]() Eglwys y Santes Fair, Kentchurch | |
Math | pentref, plwyf sifil ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Henffordd (Awdurdod Unedol) |
Poblogaeth | 273 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.9261°N 2.8456°W ![]() |
Cod SYG | E04000783 ![]() |
Cod OS | SO415255 ![]() |
![]() | |
Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Kentchurch[1] (Cymraeg: Llan-gain).[2] Saif 10 milltir i'r de-orllewin o Henffordd, bron ar y ffin â Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru, gyferbyn â phentref Y Grysmwnt yn y sir honno.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 257.[3]
Ceir traddodiadau sy'n cysylltu'r bardd Cymraeg canoloesol Siôn Cent â Kentchurch. Cyfeirir at "Ysgubor Siôn Cent" a "Derwen Siôn Cent" ym mharc plasdy y teulu Scudamore yn Kentchurch, er enghraifft. Mae cysylltiad rhwng y Scudamores ac Owain Glyn Dŵr yn ogystal; mae traddodiad fod Owain wedi cael lloches ym Monnington gyda'i ferch Alys, a oedd yn briod â John Scudamore, a'i fod wedi ei gladdu yn Kentchurch.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 18 Hydref 2019
- ↑ Geiriadur yr Academi, "Llangain"
- ↑ City Population; adalwyd 18 Hydref 2019