Macedoniaid
Cenedl a grŵp ethnig Slafig sydd yn frodorol i Ogledd Macedonia yn y Balcanau yw'r Macedoniaid. Maent yn cyfri am ryw 64% o boblogaeth Gogledd Macedonia.[1] Siaredir iaith Slafig Ddeheuol o'r enw Macedoneg ganddynt. Maent yn un o'r bobloedd Slafig Ddeheuol ac yn perthyn yn agos i'r Bwlgariaid.
Mae'r Macedoniaid ar wasgar yn byw yn bennaf yn Awstralia, yr Almaen, Unol Daleithiau America, a Chanada.
Enwau
Mae'r ddadl ynglŷn ag enw'r Macedoniaid ynghlwm wrth yr anghydfod eangach dros enw'r wlad a elwir yn swyddogol yn Ogledd Macedonia. Gall yr enw "Macedoniaid" hefyd gyfeirio at y llwyth Groegaidd hynafol a drigai yn Nheyrnas Macedon yng ngogledd-ddwyrain Gwlad Groeg o'r 9g CC i'r 2g CC, neu at y boblogaeth bresennol o Roegiaid yn ardal Macedonia yng Ngwlad Groeg. Weithiau fe'i gelwir yn Facedoniaid Slafig neu Slafiaid Macedonaidd er mwyn gwahaniaethu.
Ethnogenesis
Disgynnai'r Macedoniaid o'r llwythau Slafig a ymsefydlasant yn yr ardal yn ystod y 6g a'r 7g. Fe'i gelwid yn Sclavini gan y Bysantiaid. Daeth y Bwlgariaid Tyrcig yn niwedd y 7g, ac o gymysgedd y Slafiaid a'r Tyrcod bu ddatblygiad y Bwlgariaid. Am fil o flynyddoedd a rhagor, arferai'r Macedoniaid ystyried eu hunain yn yr un bobl â'r Bwlgariaid. Eginodd hunaniaeth genedlaethol ymhlith y Macedoniaid yn niwed y 19g, adeg sefydlu Eglwys Uniongred Bwlgaria ac annibyniaeth Bwlgaria oddi ar Ymerodraeth yr Otomaniaid. Arhosodd Macedonia dan dra-arglwyddiaeth yr Otomaniaid, er yr oedd mudiadau o blaid uno'r ddwy wlad. Rhennid Macedonia rhwng Gwlad Groeg, Serbia, a Bwlgaria yn sgil Rhyfeloedd y Balcanau (1912–13). Yn 1934, cydnabuwyd y genedl Facedonaidd a'i hiaith gan y Comintern, a dadleuodd y sefydliad hwnnw dros greu gwladwriaeth annibynnol i'r Macedoniaid. O ganlyniad i helyntion gwleidyddol y hanner can mlynedd ddiwethaf, cefnogwyd ymwahaniad gan nifer o Slafiaid Macedonia, er yr oeddynt yn dal i gofleidio cenedligrwydd Bwlgaraidd yn ogystal ag hunaniaeth ranbarthol Facedonaidd. Rhoddai'r enw Gweriniaeth Sosialaidd Macedonia ar un o wledydd ffederal Iwgoslafia yn 1944. Roedd y wladwriaeth Iwgoslafaidd, dan arweiniad Josip Broz Tito, yn cefnogi hunaniaeth Facedonaidd er mwyn hybu syniad iredentaidd o "Facedonia Fawr" a cheisio hawlio tiroedd Groegaidd cyfagos.[2]
Diwylliant
Iaith a llenyddiaeth
- Prif: Llenyddiaeth Facedoneg
Cafodd yr iaith Facedoneg ei safoni wedi'r Ail Ryfel Byd gan y llywodraeth gomiwnyddol. Sail y ffurf safonol oedd tafodiaith Prilep a Titov Veleg, a benthycwyd nifer o eiriau i'r iaith gan Serbeg a Bwlgareg. Mae Macedoneg yn debyg iawn i Fwlgareg, ac hyd ganol yr 20g cafodd iaith y werin Facedonaidd ei hystyried yn grŵp o dafodieithoedd Bwlgareg. Mae tafodieithoedd Macedoneg yn parhau i ffurfio continwwm ieithyddol â thafodieithoedd Bwlgareg, ac mae nifer o Fwlgariaid yn ystyried iaith y Macedoniaid yn ffurf ar Fwlgareg ac nid iaith ar wahân. Mynnai'r Macedoniaid y gellir olrhain Macedoneg yn uniongyrchol i Hen Slafoneg Eglwysig, iaith ysgrifenedig gyntaf y Slafiaid, er bod yr honno yn ymddangos yn debycach o lawer i Hen Fwlgareg yn ôl yr ieithyddion.[2]
Crefydd
Cristnogion Uniongred ydy'r mwyafrif o Facedoniaid, sy'n perthyn i Eglwys Uniongred Macedonia.
Cyfeiriadau
- ↑ (Macedoneg) (Saesneg) "Census of Population, Households and Dwellings in the Republic of Macedonia, 2002 – Book XIII, Skopje, 2005" (PDF). State Statistical Office of the Republic of Macedonia. Cyrchwyd 17 Mawrth 2019.
- ↑ 2.0 2.1 Vesna Garber, "Slav Macedonians" yn Encyclopedia of World Cultures, Volume IV: Europe (Central, Western, and Southeastern Europe) golygwyd gan Linda A. Bennett (Boston, Massachusetts: G.K. Hall & Co., 1992), t. 239.