Afon Angara
Gwedd
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Crai Khabarovsk, Oblast Irkutsk ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 75 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.87°N 104.82°E, 58.1°N 93°E ![]() |
Tarddiad | Llyn Baikal ![]() |
Aber | Afon Yenisei ![]() |
Llednentydd | Afon Irkut, Afon Kitoy, Afon Bolshaya Belaya, Afon Oka, Afon Iya, Afon Kova, Afon Mura, Afon Taseyeva, Afon Ilim, Chadobets, Kamenka, Irkineyeva, Karabula, Kata, Tatarka, Kuda, Ushakovka, Koda ![]() |
Dalgylch | 1,039,000 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 1,779 cilometr ![]() |
Arllwysiad | 4,518 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
Llynnoedd | Llyn Baikal ![]() |
![]() | |

Afon fawr yn ne-ddwyrain Siberia, Rwsia, yw Afon Angara. Mae'n tarddu yn Llyn Baikal ac yn llifo allan o'r llyn hwnnw, ar gwrs i gyfeiriad y gogledd-orllewin yn bennaf, i'w chymer yn Afon Yenisei. Ei hyd yw 1840 km (1150 milltir). Gan lifo allan o Lyn Baikal ger dref Listvyanka, llifa'r Angara i'r gogledd trwy ddinasoedd Irkutsk, Angarsk, Bratsk, ac Ust-Ilimsk, yn Oblast Irkutsk. Wedyn mae'n troi i'r gorllewin ac yn llifo trwy Crai Krasnoyarsk, i aberu yn Afon Yenisei ger Strelka (40 km i'r gogledd o Lesosibirsk). Am ran helaeth ei chwrs, mae Afon Angara yn dynodi'n fras y ffin ddaearyddol ac amgylcheddol rhwng Gwastadedd Gorllewin Siberia i'r gorllewin a Llwyfandir Canol Siberia i'r dwyrain.
Gweler hefyd
- Gwener Mal'ta, cerfluniau cynhanesyddol a ddarganfuwyd ar lan Afon Angara.