Neidio i'r cynnwys

Danadl poethion

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Danadl poethion a ddiwygiwyd gan Killarnee (sgwrs | cyfraniadau) am 16:02, 26 Chwefror 2020. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Danadl poethion
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Rosales
Teulu: Urticaceae
Genws: Urtica
Rhywogaeth: U. dioica
Enw deuenwol
Urtica dioica
L.
Y pigiadau bach

Llysieuyn bychan rhwng 20 – 60 cm yw danadl poethion neu'r dynaint neu weithiau dynad (Lladin: Urtica dioica; Saesneg: nettle) ac mae fel arfer yn tyfu fel chwynyn mewn hen erddi neu wrychoedd. Ceir rhwng 35 a 40 math gwahanol ohono.

Llysiau rhinweddol

[golygu | golygu cod]

Mae danadl poethion yn gyfoethog o rinweddau ac yn cynnwys: asid carbonig, asid fformig, aminia, haearn, ffosffadau a Fitamin A.[1] Gellir eu bwyta fel bresych (wedi'u berwi) gyda chaws mân neu fenyn, neu yfed y dŵr fel te: sydd yn dda at gowt a chael gwared o gerrig o'r corff.

Mae un astudiaeth o'r gwenwyn sydd ynddynt yn mynnu fod seratonin, asid ocsalig ac asid tartarig ynddo.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato