Eglwys Gadeiriol Fetropolitaidd Lerpwl
Eglwys Gadeiriol Gatholig yn Lerpwl yw Eglwys Gadeiriol Fetropolitaidd Lerpwl. Fe'i dyluniwyd yn gan y Pensaer Frederick Gibberd ac fe'i adeiladwyd rhwng 1962 ac 1967. Mae'n enghraifft neilltuol o eglwys fodern.
Penodwyd Gibberd i adeiladu'r eglwys yn dilyn cystadleuaeth yn 1959. Adeiladwyd yr eglwys ar ben crypt a adeiladwyd yn gynharach yn ynol â dyluniad ar gyfer eglwys gan Edwin Lutyens yn y 1930au. Dechreuwyd adeiladu eglwys Lutyens - a fyddai wedi bod yn ail eglwys fwya'r byd - yn 1933, ond oedwyd yr adeiladu gan yr Ail Ryfel Byd. Ailgafaelwyd yn y gwaith ar ôl y rhyfel, fodd bynnag canslwyd y cynllun yn 1958 yn sgil costau cynyddol gyda'r crypt yn unig wedi'i gwblhau.[1]
Un o brif ystyriaethau cynllun Gibberd oedd adeiladu'r eglwys yn rhad ac yn gyflym. Defnyddiwyd deunyddiau cyfoes wrth adeiladu: concrit yw'r prif ddeunydd a ddefnyddiwyd ar gyfer y strwythur, ac roedd y to gwreiddiol o alwminiwm ysgafn. Cafwyd problemau strwythurol yn buan ar ôl cwblhau'r adeiladu, a rhoddwyd to newydd dur ar yr eglwys yn ystod y 1990au.
- ↑ Edmondson, Rick. "Liverpool Metropolitan Cathedral". Cyrchwyd Gorffenaf 5 2009. Check date values in:
|accessdate=
(help)