Neidio i'r cynnwys

Damcaniaeth feirniadol

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Damcaniaeth feirniadol a ddiwygiwyd gan Adda'r Yw (sgwrs | cyfraniadau) am 18:17, 26 Mawrth 2021. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)

Dull Marcsaidd a Freudaidd o drin syniadaeth ac ymchwil cymdeithasol a gwleidyddol yw damcaniaeth feirniadol sydd yn canolbwyntio ar rym mewn strwythurau cymdeithasol. Cafodd ei harloesi yn y 1930au gan Ysgol Frankfurt, sef criw o ysgolheigion yr Institut für Sozialforschung, Prifysgol Frankfurt, yn eu plith Herbert Marcuse, Max Horkheimer, Theodor W. Adorno, Walter Benjamin, ac Erich Fromm. Mae gan ddamcaniaethwyr beirniadol agwedd weithredol at athroniaeth, gan gredu bod yn rhaid i'r ysgolhaig wrth ei waith mynd i'r afael â'r strwythurau grym sydd yn rheoli ac yn gormesu pobl, a cheisio'u gorchfygu.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Critical theory. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Mawrth 2021.