Amdani! (nofel)
Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Bethan Evans |
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Gorffennaf 1997 |
Pwnc | Nofelau Cymraeg i oedolion |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 086243419X |
Tudalennau | 206 |
Nofel i oedolion yw Amdani! sef nofel gyntaf Bethan Evans (hynny yw Bethan Gwanas). Cyhoeddwyd y gyfrol hon (a hon yn unig) o dan ei henw bedydd Bethan Evans. Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1997. Yn 2014 roedd y gyfrol yn dal mewn print.[1] Yn sgil llwyddiant Amdani! ysgrifennodd Bethan gyfres ddrama o'r un enw gyda Ffilmiau'r Nant ar gyfer S4C. Profodd y gyfres i fod mor boblogaidd, bu sawl cyfres arall wedi i Bethan roi'r gorau iddi ar ôl tair cyfres. Comisiynodd Sgript Cymru ddrama lwyfan o'r un enw a chyhoeddi llyfryn o'r sgript (Amdani!) sy'n cynnwys cerddoriaeth a chaneuon). Derbyniodd Sgript Cymru Wobr Datblygiad Cynulleidfa ACW am waith trwy gyfrwng y Gymraeg.
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Nofel sy'n adrodd hanes tîm rygbi merched Tre-ddôl. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Gorffennaf 1997.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013