Zaz
Cantores a chyfansoddwr o Ffrainc yw Zaz (ganwyd 1 Mai 1980), sy'n cymysgu arddulliau jazz, cerddoriaeth ysgafn Ffrengig, soul ac acwstig.[1] Ei henw iawn yw Isabelle Geffroy.[2]
Zaz | |
---|---|
Ffugenw | Zaz |
Ganwyd | Enól 1 Mai 1980 Tours |
Label recordio | Play Two |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, artist recordio |
Arddull | chanson, cerddoriaeth boblogaidd, Canu gwerin, jazz, Gypsy jazz |
Taldra | 1.62 metr |
Gwobr/au | Music Moves Europe Award |
Gwefan | https://zazofficial.com/ |
llofnod | |
Cafodd Zaz ei geni yn Tours, yn ferch i athrawes Sbaeneg a thrydanwr. Astudiodd yn y Conservatoire de Tours. Yn 2000 enillodd ysgoloriaeth ac astudiodd yn Ysgol Cerddoriaeth Fodern Bordeaux, y Centre d'Information et d'Activités Musicales (CIAM). Daeth yn aelod o'r band "Fifty Fingers" yn 2001, ac wedyn yn y band Izar-Adatz o Wlad y Basg.[3]
Un o'i chaneuon mwyaf adnabyddus yw "Je veux", o'i albwm cyntaf, Zaz, a ryddhawyd yn 2010.[4] Ymhlith ei chaneuon mwyaf poblogaidd ar Youtube mae; Qué vendrá a ryddhawyd yn hydref 2018 ac a welwyd gan 74 miliwn o bobl erbyn Mai 2022[5]; Eblouie par la nuit a ryddhawyd yn 2011 ac oedd wedi ei gwylio gan dros 54 miliwn erbyn Mai 2022[6]. Roedd ei fersiwn o gân a ganwyd gan Edith Piaf, "Sous le Ciel de Paris" ("Dan Awyr Paris") oedd wedi ei gwylio dros 16 miliwn o weithiau erbyn Mai 2020.[7] Erbyn Mai 2022 roedd ei chân "Imagine", a ryddhawyd ym mis Medi 2021, wedi ei gwylio dros 2.5 filiwn o weithiau ar Youtube.[8]
Albymau
golygu- Zaz (2010)
- Recto Verso (2013)
- Paris (2014)
- Effet miroir (2018)
- Isa (2021)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "interview et live de Zaz, chanteuse aux actualités A2" (yn Ffrangeg). 2424actu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-10. Cyrchwyd 28 Mai 2010.
- ↑ "Zaz: de saltimbanque chanteuse de rue... au sommet des charts !" (yn Ffrangeg). Purepeople. Cyrchwyd 28 Mai 2010.
- ↑ "Zaz n'a pas la voix dans sa poche". Respectmag. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-15. Cyrchwyd 5 Ionawr 2011. (Ffrangeg)
- ↑ "Zaz, un brillo en la canción francesa". El País. 23 Gorffennaf 2015.
- ↑ "Qué vendrá". Zaz Official. 12 Hydref 2018.
- ↑ "Eblouie par la nuit". Zaz Official. 11 Tachwedd 2011.
- ↑ "Sous le ciel de Paris". Zaz. 19 Ionawr 2015.
- ↑ "Imagine". Zaz. Cyrchwyd 9 Mai 2022.