Ynys Llanddwyn
Ynys lanw yng nghymuned Rhosyr ger Niwbwrch ar arfordir de-orllewinol Ynys Môn, yng ngogledd Cymru, yw Ynys Llanddwyn. Caiff ei gysylltu i'r tir mawr gyda sarn (neu rimyn o dir) pan fo'r llanw ar drai. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Menai, cantref Aberffraw.
Math | ynys lanwol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 0.3 km² |
Gerllaw | Môr Iwerddon |
Cyfesurynnau | 53.1375°N 4.4125°W |
Eglwys y Santes Dwynwen
golyguCysylltir yr ynys fechan hon â'r Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru. Gellir cyrraedd gweddillion yr eglwys a gysegrir i Ddwynwen trwy ddilyn llwybr troed ar hyd yr ynys o'r sarn. Mae'r adfeilion yn perthyn i'r 16g ond credir bod eglwys hynafol ar y safle cyn hynny. Roedd yr eglwys hon yn rhan o ofalaeth Eglwys Gadeiriol Bangor a dyfodd yn gefnog gan fod cynifer o bererinion yn ymweld â'r ynys yn yr Oesoedd Canol. Ger yr eglwys mae Ffynnon Ddwynwen; credid fod symudiadau'r pysgod ynddi yn darogan y dyfodol i gariadon.
Natur
golyguGellir cerdded i'r ynys dros y sarn tywod meddal pan fo'r llanw allan. Mae'n Warchodfa Natur. Ceir nifer o rywiogaethau o flodau gwyllt yno, yn cynnwys Pig yr Aran (Mynawyd y bugail). Ym mis Hydref mae nifer o adar i'w gweld ar yr ynys, gan gynnwys pibyddion coesgoch a phiod môr. Mae'r creigiau ar yr ynys yn perthyn i'r cyfnod cynambrian ac maent yn dros chwe chant miliwn mlwydd oed.[1]
Ym mhen draw'r ynys mae rhes o fythynnod pysgotwyr a dau oleudy. Mae'r baeau bychain yn dywodlyd. Ceir nifer o ynysoedd llai o'i chwmpas; Ynys yr Adar yw'r fwyaf o'r rhain.
Ceir golygfeydd o'r ynys dros fryniau Eryri a'r Eifl i'r de a'r de-orllewin.
Goleudai
golyguAr Ynys Llanddwyn cewch ddau dŵr,Twr Bach a Thwr Mawr. Yn 1819 gosodwyd colofn tua 40 troedfedd ar safle y Twr Bach fel Tirnod. Adeiladwyd glanfa fachfel cysgod i longau a oedd yn disgwyl llanw mawr i fynd trwy'r Bar am Gaernarfon. Ond roedd problem gyda'r golofn. Roedd hi'n rhy isel ac felly doedd llongau o bell methu â gweld y golofn. Felly codwyd colofn fwy ar graig o'r enw Craig Estyth. Roedd y greigen yn greigen fwy na'r creigiau eraill. Gwyn galchwyd y ddwy golofn ac ar Ddydd Calan 1846 goleuwyd lamp fawr ar ben y Twr Mawr i forwyr gael eu harwain i mewn i Abermenai yn y tywyllwch.
-
Ynys Llanddwyn a'i goleudy yn y gaeaf
-
Y lleiaf o'r ddau oleudy, yng nghanol haf
-
Cadair y Cythraul, ar y tir mawr gerllaw'r Ynys.
-
Y sarn sy'n cysylltu'r ynys (ar y dde) a'r tir mawr (ar y chwith).
-
Machlud haul
-
Clwyd, gyda'r goleudy yn y pellter
-
Yr hen oleudy
-
Bae
-
Yr hen eglwys 'Eglwys Santes Dwynwen'; allan o A tour in Wales gan Thomas Pennant (1726-1798)
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Cylchgrawn Sir Môn. Wasg Gee, Dinbych. 1972. t. 12.