Sierra Blanca
Cadwyn o fynyddoedd folcanig yn swyddi Otero a Lincoln yn ne canolbarth New Mexico, UDA, yw'r Sierra Blanca (weithiau White Mountains yn Saesneg). Mae'r gadwyn yn ymestyn am 40 milltir o'r de i'r gogledd ac 20 milltir o led, ac yn cael eu dominyddu gan Gopa Sierra Blanca (11,981 troedfedd / 3,652 m), ger Ruidoso, tua 30 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Alamogordo.
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Lincoln National Forest |
Sir | Lincoln County, Otero County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Uwch y môr | 11,922 troedfedd |
Cyfesurynnau | 33.3743°N 105.809°W |
Cadwyn fynydd | Mynyddoedd Sacramento |
- Erthygl am y mynyddoedd yn New Mexico yw hon. Gweler hefyd Sierra Blanca (gwahaniaethu).
Mae'r Sierra Blanca yn dir cysegredig i'r Apache Mescalero, llwyth Indiaidd sy'n byw gerllaw.