Sant Kilda
Mae Sant Kilda (Gaeleg yr Alban: Hiort) yn gasgliad o ynysoedd yn Ynysoedd Allanol Heledd oddi ar arfordir gogledd-orllewinol yr Alban. Hwy sy'n gorwedd bellaf i'r gorllewin o holl ynysoedd yr Alban. Hirta yw'r ynys fwyaf. Maent yn awr yn eiddo i Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban wedi i Ardalydd Bute eu gadael i'r corff yma yn ei ewyllys yn 1956. Nid oes gwybodaeth ar gael am unrhyw sant o'r enw "Kilda", ac mae ansicrwydd am darddiad yr enw.
![]() | |
Math | ynysfor ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 0 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysoedd Allanol Heledd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 8.546 km² ![]() |
Uwch y môr | 430 metr ![]() |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Cyfesurynnau | 57.815°N 8.5875°W ![]() |
Rheolir gan | Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban ![]() |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
Yn y cyfnod hanesyddol, ni chredir i'r boblogaeth erioed fod yn fwy na 180. Gadawodd y trigolion olaf yr ynysoedd yn 1930. Mae'r ynysoedd yn nodedig am y nifer fawr o adar y môr sy'n nythu yno, er enghraifft mae tua 40,000 o barau o'r Hugan yn nythu ar ynys Boreray. Pan oedd pobl yn byw ar Sant Kilda, roedd Huganod ieuanc ac adar drycin y graig yn rhan bwysig o'u bwyd. Mae ynys Soaigh hefyd yn enwod am ei defaid cynhenid, Defaid Soaigh. Rhoddwyd yr ynysoedd statws Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1986.[1]

Llyfryddiaeth
golygu- Baxter, Colin, a Jim Crumley, St Kilda: A Portrait of Britain's Remotest Island Landscape (Biggar: Colin Baxter Photography, 1988)
- Steel, Tom, The Life and Death of St. Kilda (Llundain: Fontana, 1988)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "St Kilda". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 1 Mehefin 2019.