Natsïaeth
Y wedd fwyaf eithafol ar Ffasgaeth, "Sosialaeth Genedlaethol" oedd yr enw swyddogol ar Natsïaeth, oedd wedi'i seilio ar oruchafiaeth honedig yr hil Ariaidd, ac yn benodol y pobloedd Almaenig, dros bob hil arall, yn enwedig Slafiaid ac Iddewon. Ystyrid yr Almaenwyr yn Herrenvolk: "meistr-hil".
Enghraifft o: | ideoleg wleidyddol |
---|---|
Math | Ffasgaeth, gwrth-Semitiaeth, goruchafiaeth ethnig |
Dechreuwyd | 1920 |
Daeth i ben | 8 Mai 1945 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
O fod yn griw bach di-nod, fe dyfodd y Blaid Natsïaidd yn y blynyddoedd anodd wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf i fod yn brif blaid yr Almaen.[1][2][3] Manteisiodd y blaid ar drybini economaidd y wlad, gan wneud bwch dihangol o'r Iddewon.
Yn 1920 fe gyhoeddodd y Blaid Natsïaidd rhaglen 25-Pwynt (Rhaglen Sosialaeth Cenedlaethol) a oedd yn cynnwys syniadau: gwrth-lywodraeth, syniadau Almaen gyfan, hiliaeth, gwrth-semitiaeth, Darwiniaeth Cymdeithasol, eugenics, gwrth-gomiwnyddiaeth, totalitariaeth a'u gwrthwynebiad i economeg a rhyddfrydiaeth gwleidyddol.[4][5][6][7]
Roedd militariaeth hefyd yn elfen gref mewn Natsïaeth, ac roedd pwyslais mawr ar ehangu'r diriogaeth Almaenig trwy rym arfog er mwyn creu Lebensraum: "lle i fyw" i Almaenwyr. Dadleuodd Hitler os nad oedd pobl yn medru amddiffyn ffiniau eu gwlad, nad oeddynt felly'n haeddu eu gwlad. Yn ei farn o roedd rhai gwledydd Slafaidd yn "gaethweision-hil" (slave-races) a fod gan yr Herrenvolk, felly, yr hawl i'w tiroedd.[8]
Pen draw Natsïaeth oedd Die Endlösung, neu'r Ateb Terfynol, sef ymgais i ddileu'r Iddewon ac eraill oddi ar gyfandir Ewrop. Dadleuodd Hitler nad oedd gan bobl di-wlad yr hawl i fyw ac y gall y meistr-hil gryfhau ei gilydd drwy ddifa'r 'paraseits' hyn, pobl megis: y Romani (neu Sipsiwn), Tsieciaid, Pwyliaid, pobl gydag afiechyd meddwl, yr anabl, hoywon ac eraill.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ National Socialism Encyclopædia Britannica.
- ↑ National Socialism Archifwyd 2009-10-28 yn y Peiriant WaybackMicrosoft Encarta Online Encyclopedia 2007. 2009-11-01.
- ↑ Walter John Raymond. Dictionary of Politics. (1992). ISBN 155618008X p. 327.
- ↑ Davies, Peter; Dereck Lynch (2003). Routledge Companion to Fascism and the Far Right. Routledge, tudalen 103. ISBN 0415214955.
- ↑ "Hayek">Hayek, Friedrich (1944). The Road to Serfdom. Routledge. ISBN 0415253896.
- ↑ Hoover, Calvin B. (March 1935). “The Paths of Economic Change: Contrasting Tendencies in the Modern World”, The American Economic Review, Cyfrol 25, Rhif 1, Atodiad, Papers and Proceedings of the Forty-seventh Annual Meeting of the American Economic Association, pp. 13–20.
- ↑ Morgan, Philip (2003). Fascism in Europe, 1919–1945. Routledge, tudalen 168. ISBN 0415169429.
- ↑ “BBC - History - Hitler and 'Lebensraum' in the East” (hanes), www.bbc.co.uk, 2004, gwefan: Lebensraum.