Mogadishu
Prifddinas a dinas fwyaf Somalia yw Mogadishu (Somaleg: Muqdisho). Saif yn nhalaith Banaadir, ar lan Môr Arabia. Yn 1990, amcangyfrifwyd gan y Cenhedloedd Unedig fod y boblogaeth yn 1,200,000, tra mae eraill wedi amcangyfrif rhwng 2 a 3 miliwn.
![]() | |
Math | dinas â phorthladd, dinas, y ddinas fwyaf, prifddinas ffederal ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 2,120,000 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Mohamed Ahmed Amiir ![]() |
Cylchfa amser | UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Istanbul, Almaty, Ankara ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Banaadir ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 91 km² ![]() |
Uwch y môr | 9 metr ![]() |
Gerllaw | Cefnfor India ![]() |
Cyfesurynnau | 2.0392°N 45.3419°E ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Mogadishu ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Mohamed Ahmed Amiir ![]() |
![]() | |
Y,hlith adeiladau hanesyddol Mogadishu mae mosg Fakr ad-Din (1269) a Phalas Garesa, o ddiwedd y 19g. Ceir prifysgol genedlaethol Somalia yn y ddinas, a'i maes awyr mwyaf. Ar 18 Hydref 1977, bu'r maes awyr yn y newyddion pan achubwyd 82 o deithwyr o awyren Lufthansa gan unedau arbennig o heddlu'r Almaen, wedi i'r awyren gael ei chipio a'i gorfodi i lanio ym Mogadishu.
Yn 2006 dechreuodd Rhyfel Somalia, a chipiwyd Mogadishu gan luoedd arfog Ethiopia. Ystyrir y ddinas yn un o'r dinasoedd peryclaf yn y byd.
Pobl enwog o Mogadishu
golygu- Ayaan Hirsi Ali, gwleidydd