Mathemategydd
Arbenigwr ym maes Mathemateg yw mathemategydd, ac sy'n astudio rhif, data, modelau, strwythur, gofod, newid (Calcwlws) a nifer o israniadau eraill. Yn aml mae'n datrys problemau mathemategol naill ai mewn mathemateg bur neu mathemateg gymhwysol, ar gyfer sefyllfaoedd real y byd mawr.[1][2]
Enghraifft o: | galwedigaeth, occupation group according to ISCO-08, galwedigaeth |
---|---|
Math | gwyddonydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o'r mathemategwyr cyntaf y ceir conod ohono yw Thales o Filetus (c. 624–c.546 CC) a'r ferch gyntaf oedd Hypatia o Alexandria (AD 350 - 415) a ysgrifennodd nifer o lyfrau ar fathemateg gymhwysol. Blodeuodd tad geometreg, sef Euclid o Alexandria yn 300 CC. Magwyd sawl cyfieithydd Islamaidd a drodd at fathemateg, gan gynnwys Ibn al-Haytham; un nodwedd ohonynt oedd eu bod yn aml-ddisgyblaethol, yn bolymath. Yn yr Oesoedd Canol roedd mathemategwyr Ewropeaidd yn dilyn gyrfâu eraill, gan droi at fathemateg fel diddordeb: peiriannydd oedd Niccolò Fontana Tartaglia, cyfreithiwr oedd François Viète a meddyg oedd y Cymro Robert Recorde.[3][4]
Erbyn y 17g, daeth y prifysgolion yn feithrinfeydd i syniadau newydd gyda Robert Hooke a Robert Boyle ym Mhrifysgol Rhydychen ac Isaac Newton yng Nghaergrawnt.[5]
Mathemategwyr o Gymru
golygu- Brian Hayward Bowditch g. 1961 geometreg a thopoleg; athro ym Mhrifysgol Warwick.
- Clive W. J. Granger (ganwyd 1934), enillydd gwobr Nobel; economegydd
- Gwilym Meirion Jenkins (1932–1982), mathemategydd
- Yr Athro Syr Vaughan Jones, mathemategydd, ei dad yn dod o Gwm Gwendraeth; Prifysgol Vanderbilt yn Nashville; un o fathemategwyr mwya'r byd yn 2015
- John Viriamu Jones (1856–1901), mathemategydd a ffisegydd, a phrifathro cyntaf Coleg y Brifysgol Caerdydd
- Thomas Jones (1756–1807) Coleg y Drindod, Caergrawnt
- William Jones (mathemategwr) (1675–1749), mathemategydd cyntaf i ddefnyddio'r symbol π (pi)
- John T. Lewis (1932–2004), Abertawe. Cyfrannodd tuag at y mesur cwantwm Bose–Einstein
- William Hallowes Miller (1801–1880, Llanymddyfri), crisialegydd. Cymhwysodd fathemateg at yr astudiaeth o risialau a dyfeisio "Mynegeion Miller".
- Richard Price (1723–1791), ystadegydd ac athronydd
- Robert Recorde (tua 1510–1558), mathemategydd a ddyfeisiodd y symbol (=)
- Elmer Rees (ganwyd 1941), mathemategydd
- Bertrand Russell (1872–1970), athronydd, mathemategydd a traethodwr
- John William Thomas (Arfonwyson) (1805–1840), mathemategydd
- Yr Athro Emeritws Kenneth Walters (g. tua 1935), mathemategydd; Prifysgol Aberystwyth
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Boyer (1991), A History of Mathematics, p. 43
- ↑ (Boyer 1991, "Ionia and the Pythagoreans" p. 49)
- ↑ "Ecclesiastical History, Bk VI: Chap. 15". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-14. Cyrchwyd 2018-11-05.
- ↑ Abattouy, M., Renn, J. & Weinig, P., 2001. Transmission as Transformation: The Translation Movements in the Medieval East and West in a Comparative Perspective. Science in Context, 14(1-2), 1-12.
- ↑ Röhrs, "The Classical Idea of the University," Tradition and Reform of the University under an International Perspective tud.20