Lleng Rufeinig
Y Lleng Rufeinig (o'r Lladin legio) oedd prif uned filwrol y fyddin Rufeinig. Yn oes aur yr Ymerodraeth roedd yn cynnwys rhwng 5,000 a 6,000 o wŷr traed; yn ddiweddarach hyd 8.000 o wŷr traed a marchogion yn ychwanegol. Roedd gan bob lleng rif, ac fel rheol enw hefyd (gweler Rhestr Llengoedd Rhufeinig). Mae hanes am tua 50 o lengoedd, ond ni fu mwy na 28 mewn bodolaeth ar yr un pryd.
Y lleng oedd sylfaen yr ymerodraeth, ac anaml y gallai eu gelynion eu gwrthsefyll mewn brwydr. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'u gwrthwynebwyr, roedd y llengfilwyr yn filwyr proffesiynol oedd wedi dewis y fyddin fel gyrfa.
Hanes
golyguYn oes brenhinoedd Rhufain, roedd y gair legio yn cyfeirio at holl fyddin Rhufain, hynny yw y dinesyddion wedi eu galw i ymladd. Yn ddiweddarch yn ystod y Weriniaeth Rufeinig roedd y fyddin weithiau yn cael ei rhannu'n ddwy, pob rhan dan arweiniad un o'r ddau gonswl. Yn ddiweddarach, yn ystod y 4g cyn Crist, sefydlwyd y llengoedd yn fwy ffurfiol.
Yn ystod y Weriniaeth roedd llengoedd yn cael eu ffurfio pan oedd angen ac yna yn cael eu chwalu pan nad oedd angen amdanynt mwyach. Yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig daethant yn fwy sefydlog, a bu rhai llengoedd mewn bodolaeth am ganrifoedd lawer.
Ar adegau roedd gan y llengoedd ddylanwad mawr ar wleidyddiaeth Rhufain, er enghraifft yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdr pan geisiodd llengoedd mewn gwahanol rannau o'r ymerodraeth sefydlu eu ffefrynnau eu hunain fel ymerawdr. Oherwydd hyn, gallai unrhyw gadfridog a allai ennill teyrngarwch nifer o lengoedd iddo ef ei hun yn bersonol fod yn beryglus i'r ymerawdr.
Trefniant Lleng
golyguRoedd pob lleng yn cael ei harwain gan legatus. Roedd y rhain yn aelodau o deuluoedd mwyaf aristocrataidd Rhufain ac a pherthynas agos a'r ymerawdr. Fel rheol yr oeddynt yn cael y swydd yma pan oeddynt tua deg ar hugain oed. O danynt hwy roedd y tribunes militares. O'r rhain roedd un yn aelod o deulu aristocrataidd ac yn gweithredu fel dirprwy i'r legatus, a'r pump arall yn dod o deuloedd llai aristocrataidd ond yn dal yn uchelwyr.
O danynt hwy, ac yn ffurfio asgwrn cefn y lleng, roedd y milwyr proffesiynol, oedd yn gwneud gyrfa yn y fyddin. Yr uchaf o'r rhain oedd y praefectus castrorum (pennaeth y gwersyll), ac yn nesaf ato y primus pilus, sef yr uchaf o'r canwriaid mewn safle. Yna roedd y canwriaid eraill, gyda swyddogion eraill a elwid yn optio yn eu dilyn. Roedd nifer o fân swyddogion megis y tesserarius, a swyddi megis daliwr y faner. Yna deuai'r llengfilwyr cyffredin. Roedd y rhain yn filwyr proffesiynol ar gyflog, wedi eu hyfforddi a'u disgyblu'n ofalus.
Roedd gan bob lleng ei Eryr, delw o eryr ar bolyn oedd yn cynrychioli'r lleng. Mewn brwydr delid yr eryr gan swyddog a elwid yr aquilifer, ac nid oedd dim gwaeth a allai ddigwydd i leng na cholli ei heryr i'r gelyn mewn brwydr.
Darllen pellach
golygu- History of the Art of War. Vol 1. Ancient Warfare, Hans Delbrück
- Roman Warfare, Adrian Goldsworthy
- History of Warfare, John Keegan
- Greece and Rome at War, Peter Connolly
- The Encyclopedia Of Military History: From 3500 B.C. To The Present. (2nd Revised Edition 1986), R. Ernest Dupuy, a Trevor N. Dupuy.
- War, Gwynne Dyer
- The Evolution of Weapons and Warfare, Trevor N. Dupuy
- Flavius Vegetius Renatus, De Re Militari
- Iŵl Cesar, De Bello Gallica
- William Smith, D.C.L., LL.D.: A Dictionary of Greek and Roman Antiquities, John Murray, Llundain, 1875.
- The Punic Wars, Adrian Goldsworthy.
- Carnage and Culture, Victor Davis Hanson
- The Fall of the Roman Empire: The Military Explanation, Arthur Ferrill, 1988
- The Complete Roman Army, Adrian Goldsworthy
- The Military System Of The Romans, Albert Harkness
- From the Rise of the Republic and the Might of the Empire to the Fall of the West, Nigel Rodgers