Jane Austen
Nofelydd o Loegr oedd Jane Austen (16 Rhagfyr 1775 – 18 Gorffennaf 1817). Mae hi'n adnabyddus am ei gweithiau fel Pride and Prejudice a Sense and Sensibility. Ysgrifennai mewn arddull realaidd a chaiff ei hystyried yn sylwebydd cymdeithasol sylwgar a feddai ar iaith anuniongyrchol a oedd yn llawn eironi. Oherwydd hyn, hyhi yw un o ysgrifenwyr mwyaf poblogaidd yn Saesneg.
Jane Austen | |
---|---|
Ganwyd | Jane Austen 16 Rhagfyr 1775 Steventon |
Bedyddiwyd | 16 Rhagfyr 1775, 5 Ebrill 1776 |
Bu farw | 18 Gorffennaf 1817 o afiechyd Addison Caerwynt |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, awdur storiau byrion, nofelydd |
Adnabyddus am | Pride and Prejudice, Emma, Persuasion, Sense and Sensibility, Mansfield Park, Northanger Abbey |
Arddull | nofel ramant, llenyddiaeth Gothig |
Mudiad | realaeth |
Tad | George Austen |
Mam | Cassandra Austen |
Llinach | Jane Austen's family and ancestry |
llofnod | |
Cafodd ei eni yn Steventon, Hampshire. Rheithor oedd ei thad, y Parch George Austen. Treuliodd Austen ei bywyd cyfan fel rhan o deulu bach a chlos, a oedd ar ymylon bywyd bonheddig yn Lloegr. Derbyniodd ei haddysg gan ei thad yn bennaf, yn ogystal â'i brodyr hŷn a'i darllen personol ei hun. Roedd cefnogaeth di-derfyn ei theulu yn rhan annatod o ddatblygiad Austen fel ysgrifennwr proffesiynol. Parhaodd prentisiaeth Austen fel ysgrifennwraig o'i harddegau tan ei bod tua 35 oed. Yn ystod y cyfnod hwn, arbrofodd â nifer o arddulliau ysgrifenedig, gan gynnwys y nofel epistolaidd. Ysgrifennodd dair nofel fawr a dechreuodd ei phedwaredd.
O 1811 tan 1816, llwyddodd Austen fel awdures, gyda'r nofelau canlyol yn cael eu rhyddhau: Sense and Sensibility (1811), Pride and Prejudice (1813), Mansfield Park (1814) ac Emma (1816). Ysgrifennodd ddwy nofel arall hefyd, Northanger Abbey a Persuasion a gafodd eu cyhoeddi ym 18181 ar ôl ei marwolaeth. Roedd hi hefyd wedi dechrau nofel arall sef "Sanditon" ond bu farw cyn iddi fedru ei gwblhau.
Bu farw Austen yng Nghaerwynt.