J. T. Job
Bardd
Gweinidog, bardd ac emynydd Cymreig oedd John Thomas Job, a ysgrifennodd dan yr enw J. T. Job (21 Mai 1867 – 4 Tachwedd 1938).
J. T. Job | |
---|---|
J.T. Job yn 1904 | |
Ganwyd | 21 Mai 1867 Llandybïe |
Bu farw | 4 Tachwedd 1938 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Ganed ym mhlwyf Llandybie, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd yn athrofa Trefeca, a bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Aberdâr, Bethesda ac Abergwaun. Dyfarnwyd gradd M.A. er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru yn 1932.
Roedd yn gystadleuydd llwyddiannus yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1897, Llanelli 1903, a Chastell-nedd 1918, a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1900.
Bu iddo ennill Eisteddfod San Fransisco 1915 ac, yn yr un flwyddyn, priodi am yr ail waith. Enw ei ail wraig oedd Cathreine Shaw, a ganed iddynt ddau o blant.
Cyhoeddiadau
golygu- Pryddest y diweddar Barchedig David Charles Davies, M.A., Trefecca (Llundain, 1894)
- Caniadau (Caernarfon, 1929)