Jörg von Ehingen

Roedd Jörg von Ehingen, neu Georg von Ehingen (14281508), yn farchog a llenor yn yr iaith Almaeneg, a aned yng nghastell Hohenentrigen, ger tref fach Rottenburg-am-Neckar yn Swabia (talaith Baden-Württemberg heddiw), ar lan Afon Neckar.

Jörg von Ehingen
Ganwyd1428 Edit this on Wikidata
Hohenentringen Edit this on Wikidata
Bu farw24 Chwefror 1508 Edit this on Wikidata
Schloss Kilchberg Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Beddrod Sanctaidd Edit this on Wikidata

Dyddiadur Jörg von Ehingen

golygu

Yr unig waith llenyddol ganddo sy'n hysbys yw cyfrol hunangofiant mae'n galw ei "Ddyddiadur" a ysgrifennwyd ganddo yn ei henaint. Er ei bod yn gyfrol fer mae'n hynod ddiddorol am y disgrifiadau a geir ynddi o bobl a lleoedd. Bu'n bresennol pan goronwyd y brenin Ladislas o Bohemia yn Fienna ar 28 Hydref 1453, er enghraifft.

Taith i'r dwyrain

golygu

Aeth Jörg ar ddwy daith fawr yn ei ieunctid. Yn ystod y gyntaf, yn 1454, teithiodd i'r Dwyrain Agos. Ymwelodd â Fenis, Rhodes (lle daeth i adnabod Pennaeth Mawr Urdd Marchogion Sant Ioan a ammdiffynai'r ynys yn erbyn y Tyrciaid Otoman), ac yna Beirut, Tyrus, Nasareth, Môr Galilea a Jeriwsalem yn y Tir Sanctaidd. Ar ôl cyfnod cythryblus yn Damascus aeth i Alecsandria yn yr Aifft cyn dychwelyd i Swabia gan alw yn Cyprus a Rhodes eto ar ei ffordd adre.

Taith i'r de

golygu

Roedd ei ail daith, ar ddiwedd y flwyddyn 1454 neu ddechrau 1455, yn fwy anturus. Ceisiai antur ac aeth ar gylch i gynnig ei wasanaeth fel marchog yn llysoedd Ffrainc a Sbaen. Gwelodd y brenin Siarl I yn Bourges, Juan II o Navarre ym Pamplona, René o Sisili yn Angers ac Alfonso V o Bortiwgal yn Lisbon. Gofynnodd Alfonso iddo fynd i Ceuta (yng ngogledd Morocco heddiw) i'w amddiffyn rhag lluoedd y Mwslemiaid. Cafodd ei hun mewn ymryson law-i-law ag un o farchogion gorau y Moors tra gwyliodd y ddwy fyddin yr ornest; ymryson sifalriaidd ond gwaedlyd a enillodd o drwch blewyn.

Diweddglo

golygu

Dychwelodd i'w hen gartref ar lannau gwyrdd Afon Neckar yn ŵr ifanc ond profiadol, wedi ymweld â llys Harri IV o Castille ar ei ffordd ac ymladd eto. Ond efallai fod Jörg wedi cael digon o grwydro a rhyfela. Gwrthododd le yn y llys, atgyweiriodd gastell Kilchberg (castell arall y teulu) a phriododd ferch leol a bu fyw weddill ei ddyddiau yn bugeilio ei ddefaid a chodi ei deulu; diweddglo annisgwyl i yrfa marchog crwydr.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Malcolm Letts (gol.), The Diary of Jörg von Ehingen (Rhydychen, 1929)

Dolen allanol

golygu