Henry Rees

gweinidog enwocaf y Methodistiaid Calfinaidd yn ei gyfnod

Arweinydd crefyddol ymneilltuol o Gymru ac awdur ar bynciau diwinyddol oedd Henry Rees (15 Chwefror 1798 - 18 Chwefror 1869)[1]. Fe ganed ym mhlwyf Llansannan, Sir Ddinbych, mewn ffermdy wrth droed Mynydd Hiraethog. Roedd yn frawd i'r llenor William Rees (Gwilym Hiraethog). Daeth yn un o bregethwyr mwyaf adnabyddus y 19g.

Henry Rees
Ganwyd15 Chwefror 1798 Edit this on Wikidata
Llansannan Edit this on Wikidata
Bu farw18 Chwefror 1869 Edit this on Wikidata
Conwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
Cofeb i Henry Rees ac enwogion eraill o'r fro, yn cynnwys ei frawd Gwilym Hiraethog, yn Llansannan

Bywgraffiad

golygu

Daeth yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a dechrau pregethu yn 1818. Un o'r bobl a'i edmygai'n fawr fel pregethwr oedd John Jones, Talysarn, a ysbrydolwyd ganddo i fynd i'r weinidogaeth. Mae ei bregethau a'i ddiwinyddiaeth yn dangos dylanwad diwinyddion Piwritaniaid yr 17g, yn enwedig John Owen.

Cafodd yrfa hir a llwyddiannus. Roedd yn barod i fynegi ei farn hyd yn oed pe bai hynny'n tynnu'n groes i bobl yn ei enwad ei hun. Teimlai erbyn 1842 fod y Methodistiaid yng Nghymru ar gyfeiliorn: "aneswyth wyf, a methu gwybod beth a ddaw o'r Methodistiaid hefo'u tlodi [h.y. ysbrydol], eu hanghydfod, a'u hanturiaethau".[2] Serch hynny, arosodd gyda'r enwad er bod ei frawd Gwilym Hiraethog eisoes wedi gadael i ymuno a'r Annibynwyr. Daeth yn llywydd cyntaf Cymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd yn 1864. Cyfrannai'n rheolaidd i gylchgronau ymneilltuol y dydd. Cyhoeddwyd cyfrol o'i bregethau yn ystod ei oes.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Annie Mary Davies (gol.), Life and letters of Henry Rees (Bangor, 1914)
  • Owen Thomas, Cofiant y Parchedig Henry Rees, 2 gyfrol (Wrecsam, 1890)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein
  2. R. T. Jenkins, Hanes Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Caerdydd, 1933), t. 44.


[[Categori:Diwinyddion o Gymru]] [[Categori:Llenorion y 19eg ganrif o Gymru]]