Gwasanaeth ar lein gan S4C a sefydlwyd ar 11 Mehefin 2017 yw Hansh, sy'n darparu cynnwys ffurf fer wedi ei anelu at bobl ifanc rhwng 16 – 34 oed. Fe'i disgrifir fel "Brathiad newydd bob dydd o bethau da: celf, comedi, cerddoriaeth, gemau, ffilmiau, teithio a phethau gwirion."[1]

Hansh
Math
gwasanaeth ar-lein
Sefydlwyd11 Mehefin 2017
Rhiant-gwmni
S4C
Gwefanhttp://www.s4c.cymru/cy/adloniant/hansh/tags/ Edit this on Wikidata

Sianel Pump oedd Hansh yn wreiddiol, ond ychwanegodd Y Lle ac Ochr 1 gynnwys i'r sianel felly newidiwyd ei enw a'i ailfrandio. Ers hynny mae'r gwasanaeth wedi datblygu o fod yn gweithredu ar Facebook ac YouTube yn unig i fod yn creu cynnwys ar Instagram a TikTok yn ogystal â chreu podlediadau.

Yr eitemau mwyaf poblogaidd ar y sianel ydy 'Tân a Mwg' gyda Chris Foodgasm Roberts, 'Bocs Bry', 'Sgrameer', Esyllt Ethni Jones, caneuon comedi 'HyWelsh', eitemau ffasiwn Sioned Medi, cyfweliadau Gareth yr Orangutang, ryseitiau bwyd SGRAM ac eitemau Elena Cresci. Credir bod rhai o gymeriadau Hansh yn gyfarwydd i Gymry led led y byd, gan gynnwys Gareth yr Orangutan, 'Tishio grêp' a chymeriadau dychanol yr actor Geraint Rhys Edwards.

Nodir yn Golwg yn Awst 2017 fod fideos byrion Hansh wedi cael eu gwylio filiwn o weithiau ers lansio’r gwasanaeth ar 11 Mehefin 2017 hy mewn cyfnod o ddeufis.[2]

Yn 2020 denodd Hansh un miliwn o sesiynau gwylio mewn un mis ar draws Twitter, Facebook ac YouTube am y tro cyntaf erioed. Fel enghraifft, llwyddodd fideo 'Tisio Salwch' i ddenu 110,000 o sesiynau gwylio ar Facebook gyda Fideo Bootlegger yn denu 280,000 o sesiynau gwylio ar Twitter.[3] Yn ogystal ag elfennau comedi erbyn 2020 roedd Hansh wedi cynhyrchu cyfres o raglenni dogfen gan gynnwys rhaglen am y dylanwadwr Niki Pilkington, Garmon Ion a phobl Patagonia a Ffoadur Maesglas yn dilyn hanes dau ffoadur o Syria sef Muhaned a'i fab Shadi. Mae Hansh hefyd wedi datblygu Hansh Dim Sbin, er mwyn cynnig cynnwys newyddiadurol, Newyddion a Materion Cyfoes i'r gynulleidfa.

Dywedodd Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C: ""Mae'n bwysig fod Hansh yn ymateb i'r hyn sy'n digwydd yn y byd ac yn trafod pynciau o bwys gyda'n cyfranwyr. Bydd Hansh Dim Sbin yn rhoi gwybodaeth ac adroddiadau dyddiol am y sefyllfa COVID-19 a bydd hefyd cynnwys iechyd meddwl bob dydd Mercher dan #MercherMeddwl."

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Twitter Hansh adalwyd 2 Tachwedd 2017.
  2. golwg360.cymru; adalwyd 31 Mawrth 2020.
  3. gwefan s4c.cymru; adalwyd 31 Mawrth 2020.

Dolenni allanol

golygu