Mae gwymon yn cyfeirio at nifer o rywogaethau o wymon morol, meicrogellog a meicrosgopig.[1]

Photo of rocks covered by dried plant matter
Gwymon ar greigiau

Mae'r term yn cynnwys rhai mathau o wymon coch, brown, a gwyrdd. Gall gwymon gynnig cyfleoedd rhagorol ar gyfer ecsbloetiad diwydiannol gan eu bod yn ffynhonnell o gyfansoddion amrywiol (h.y. polysacaridau, proteinau a ffenolau) all gael eu defnyddio fel bwyd [2][3] ac ymorth i anifeiliaid, cyffuriau [4] neu wrteithiau.

Mae dau beth penodol ei angen er mwyn i wymon dyfu, sef dwr môr a digon o olau ar gyfer y proses ffotosynthesis. Mae fel arfer angen rhywbeth iddo lynnu wrtho hefyd, er bod rhai mathau - Sargassum a Gracilaria - yn gallu arnofio yn rhydd. O ganlyniad, mae gwymon fel arfer i'w ganfod yn y rhannau hynny o'r môr sydd agosaf i'r lan, ac yn arbennig mewn mannau caregog.

Profiadau unigol

golygu

Eiliad o saib ynghanol cyflafan: daeth dyddiadur y nyrs Edith Appleton a wasanaethodd ar y ffrynt gorllewinol yn y Rhyfel Gyntaf i sylw Prosiect Llên Natur. Mae’r dyddiadur yn gignoeth ac yn ddirdynnol dros ben, ond mi roedd Edith (neu Edie fel y’i gelwid) yn hoff o natur ac yn sensitif i’r tywydd. Yng nghanol cyflafan y Somme collodd hi rioed ei chariad at fywyd ac at natur. Dyma gofnod Edie ar adeg o hamdden ar lan y mór Etretat, yng ngogledd Ffrainc:

If I had the time I would collect seaweed in a book - there is one sort I have never seen before. Under water it is a bright blue, but out of water it is just like that valuable old pottery - a sort of blackish brown with a blue glisten on it. We walked across the freshwater stream and found it strong and cold, and the old washerwomen thought we were quite mad, but that we are used to by now, the old villains! We saw how it is our clothes come back in holes - each of them had a bottle of chloride of lime and at the least stain they pour it lavishly on all the same - coarse or fine cloth [cofnod 14 Gorffennaf 1916].

Mae Edith yn disgrifio'r gwymon Cystoseira tamariscifolia (rainbow wrack, tamarisk weed, magic seaweed). Nid oes enw cyffredin Cymraeg arno. [Beth am ‘gwymon glaswyrdd’?]. Mae o yn liw llachar glas/gwyrdd/melyn o dan y dŵr, ond yn colli'r lliwiau unwaith mae o allan o'r dwr, ac yn troi yn ddu. Dyma ddolen i ddelwedd ohono: http://www.flickr.com/photos/domgreves/7216622890/ Gwymon anghyffredin ym Mhrydain.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Smith, G.M. 1944. Marine Algae of the Monterey Peninsula, California. Stanford Univ., 2nd Edition.
  2. Garcia-Vaquero, M; Rajauria, G; O'Doherty, JV; Sweeney, T (2017). "Polysaccharides from macroalgae: Recent advances, innovative technologies and challenges in extraction and purification". Food Research International 99 (Pt 3): 1011–1020. doi:10.1016/j.foodres.2016.11.016. PMID 28865611. https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0963996916305567.
  3. Garcia-Vaquero, M.; Hayes, M. (2016). "Red and green macroalgae for fish and animal feed and human functional food development". Food Reviews International 32: 15–45. doi:10.1080/87559129.2015.1041184. https://www.tandfonline.com/doi/abs/10.1080/87559129.2015.1041184.
  4. Kazłowski B; Chiu YH; Kazłowska K; Pan CL; Wu CJ (August 2012). "Prevention of Japanese encephalitis virus infections by low-degree-polymerisation sulfated saccharides from Gracilaria sp. and Monostroma nitidum". Food Chem 133 (3): 866–74. doi:10.1016/j.foodchem.2012.01.106. https://dx.doi.org/10.1016/j.foodchem.2012.01.106.
  5. Sion Roberts ym Mwletin Llên Natur rhifyn 66