Glór na nGael
Mae Glór na nGael (ynganiad Gwyddeleg: [ˈɡl̪ˠoːɾˠ n̪ˠə ˈŋeːl̪ˠ]; “llais y Gwyddelod”) yn un o'r prif sefydliadau Gwyddeleg. Fe'i hariennir gan Foras na Gaeilge sy'n hyrwyddo a chefnogi'r Wyddeleg mewn tri sector: y teulu, datblygu cymunedol, a busnes. Fe'i sefydlwyd fel cystadleuaeth grŵp cymunedol Gwyddeleg[1] yn 1961, ac roedd y Cardinal Tomás Ó Fiaich a'r Monsignor Pádraig Ó Fiannachta ymhlith ei sylfaenwyr.
Enghraifft o: | sefydliad di-elw |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1961 |
Sylfaenydd | Tomás Ó Fiaich, Pádraig Ó Fiannachta |
Gwefan | https://www.glornangael.ie/ |
Ariannu
golyguMae Glór na nGael yn cael ei ariannu heddiw gan Foras na Gaeilge gyda chefnogaeth hanfodol hefyd gan Adran Celfyddydau, Treftadaeth a Gaeltacht; Adran Addysg a Gwyddoniaeth ac Adran Materion Tramor a Masnach Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon. Ceir peth incwm drwy'r siop ar-lein www.udar.ie maent yn berchen arni.[2]
Comórtas Ghlór na nGael
golyguMae Glór na nGael yn gyfrifol am drefnu cystadleuaeth Comórtas Ghlór na nGael. Mae’r gystadleuaeth wedi tyfu ac esblygu’n sylweddol dros y blynyddoedd i gynnwys cronfa wobrau o dros €80,000 gyda themâu yn cwmpasu sawl agwedd ar fywyd cymunedol. Ceir hefyd restr helaeth o wobrau arbennig yn flynyddol.[3] Mae grwpiau beirniadu Glór na nGael yn ymweld â phob pwyllgor tua diwedd y flwyddyn i weld y cynnydd a wnaed ac i ddyfarnu marciau tuag at y gystadleuaeth. Darperir adroddiad ysgrifenedig i bob pwyllgor yn manylu ar eu cynnydd ac yn rhoi unrhyw gyngor neu argymhellion pellach.
Fondúireacht Sheosaimh Mhic Dhonncha
golyguMae Fondúireacht Sheosaimh Mhic Dhonncha ("Sefydliad Joe McDonagh") yn gynllun[4] er mwyn cefnogi clybiau'r Gymdeithas Athletau Gwyddelig sy'n hyrwyddo'r Wyddeleg yn weithgar.[5] Mae'n gynllun ar y cyd gyda'r Gymdeithas honno, ac mae Glór na nGael yn gweinyddu'r cynllun gyda Phwyllgor Cenedlaethol y Gymdeithas Athletau.
Sefydlwyd y cynllun er anrhydedd i Joe McDonagh. Enillodd y safle uchaf yng Nghymdeithas Chwaraeon Gael. Fel huriwr, aeth â Chwpan Carthage yn ôl dros Shannon a bu’n brif weithredwr, ac yn gadeirydd, rhai o brif sefydliadau’r wlad, gan gynnwys Foras na Gaeilge. Pwrpas y cynllun yw cydnabod y gwaith hwnnw, a rhoi cyfle i glybiau ddatblygu’r gwaith hwnnw, ar sail bwyllog a chynlluniedig. Rhoddir medalau efydd, arian ac aur i glybiau ar ddiwedd y flwyddyn – yn dibynnu ar nifer y nodau a osodwyd gan y Sefydliad y mae clybiau wedi’u cyflawni.
Gemau Gwyddeleg
golyguGlór na nGael sy'n cyhoeddi gemau geiriau Scrabble[6] a Junior Scrabble[7] yn y Wyddeleg,[8] ac yn 2015 cyhoeddodd hefyd y fersiwn Gwyddeleg o'r gêm fwrdd Monopoly.[9] Yn fwyaf diweddar mae wedi cyhoeddi fersiwn Gwyddeleg o Cluedo[10] a Monopoly Junior a gafodd ei lansio fel rhan o Lá Spraoi na Gaeilge 2024 yn Letterkenny.[11]
Gweler hefyd
golyguDolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Glór na nGael Competitions". Glór na nGael. Glór na nGael. Cyrchwyd 10 March 2024.
- ↑ "Glór na nGael Community Development". Gwefan Soziolinguistika Klusterra. Cyrchwyd 10 Mehefin 2024.
- ↑ "Irish Language – Tuesday, 20 Jun 2023 – Parliamentary Questions (33rd Dáil) – Houses of the Oireachtas" (yn Saesneg). www.oireachtas.ie. 2023-06-20. Cyrchwyd 2024-03-11.
- ↑ "Irish Language – Tuesday, 20 Jun 2023 – Parliamentary Questions (33rd Dáil) – Houses of the Oireachtas". www.oireachtas.ie (yn Saesneg). 2023-06-20. Cyrchwyd 2024-03-11.
- ↑ "Cláraigh do chlub le Fondúireacht Sheosaimh Mhic Dhonncha i 2023". www.gaa.ie (yn Saesneg). 2023-01-11. Cyrchwyd 2024-03-11.
- ↑ "Scrabble as Gaeilge". Siopa Udar (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-03-11.
- ↑ "Junior Scrabble as Gaeilge". Siopa Udar (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-03-11.
- ↑ "Word play as Gaeilge: Irish Scrabble now available". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-03-11.
- ↑ "Monopoly as Gaeilge". Siopa Udar (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 2024-03-11.
- ↑ "Cluedo as Gaeilge". Siopa Udar (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 2024-03-11.
- ↑ Monopoly Junior as Gaeilge launched in Letterkenny https://www.donegallive.ie/news/letterkenny-milford/1499298/monopoly-junior-as-gaeilge-launched-in-letterkenny.html