Genogl Gogarth

Genogl ceffyl Oes yr Ia o Ben y Gogarth wedi'i cherfio

Mae Genogl Ogof Kendrick yn asgwrn gên ceffyl wedi'i cherfio. Dyma yw gwaith celf hynaf Cymru.

Genogl Gogarth
Enghraifft o:darganfyddiad archaeolegol, gwaith celf, mandibl dynol Edit this on Wikidata
Deunyddasgwrn Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluMileniwm 8. CC Edit this on Wikidata
Lleoliadyr Amgueddfa Brydeinig Edit this on Wikidata

Mae'r genogl yn 13,000 o flynyddoedd oed ac felly'n deillio o Oes yr Iâ. Darganfuwyd y genogl ar fryn Pen y Gogarth, Llandudno, ym 1870 gan gloddiwr copr oedd wedi ymddeol, Thomas Kendrick. Cafodd sgerbydau tri oedolyn a pherson ifanc eu darganfod yn Ogof Kendrick hefyd.[1]

Nid yw'r enghraifft hwn o gelf hynaf Cymru[1] yn cael ei arddangos lle cedwir, yn yr Amgueddfa Brydeinig.[2]

Mae'r gên ceffyl sydd wedi'i dorri i ffwrdd o'r ên o flaen y dannedd molar ac mae gan y darn dri allan o bedwar o'r blaenddannedd. Mae ochr isaf y genogl wedi'i haddurno â phum panel o siafronau ac mae'n bosib bod y gwrthrych wedi'i osod gyda chladdedigaethau dynol a ddarganfuwyd ar y safle. Roedd olion o ocr coch (pigment tywod a phridd) ar y dannedd pan darganfyddwyd ond fe'i collwyd yn y broses o dynnu'r garreg brecia oddi ar ei wyneb. Fe wnaeth y glanhau hwn hefyd wynnu ymddangosiad yr asgwrn. Nid yw'r pigment ocr ar yr esgyrn dynol ond yn hytrach yn gorchuddio nifer o arteffactau eraill o'r safle yn fwriadol.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "'Celf hynaf Cymru' yn dychwelyd i Landudno". BBC Cymru Fyw. 2014-04-04. Cyrchwyd 2023-09-05.
  2. 2.0 2.1 "engraved antler/bone/ivory; portable art | British Museum". The British Museum (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-05.