Euros Bowen

bardd (1904-1988)

Bardd Cymraeg a chyfieithydd oedd Euros Bowen (12 Medi 19042 Ebrill 1988).[1] Fe'i hystyrir yn un o feirdd Cymraeg mwyaf yr 20g.

Euros Bowen
Ganwyd12 Medi 1904 Edit this on Wikidata
Treorci Edit this on Wikidata
Bu farw2 Ebrill 1988 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PerthnasauDavid Bowen, Ben Bowen Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yn Nhreorci, yn frawd i'r prifardd Geraint Bowen. Mynychodd Goleg Presbyterian Caerfyrddin,[2] cyn mynd ymlaen i Brifysgol Aberystwyth, Coleg Mansfield a Coleg y Santes Catrin, Rhydychen. Daeth yn offeiriad Anglicanaidd yn Llanygywer, Penllyn, ac yna'n Rheithor Llanuwchllyn yn yr hen Sir Feirionnydd.

Barddoniaeth

golygu

Enillodd Euros Bowen y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pen-y-bont ar Ogwr 1948 am bryddest 'O'r Dwyrain' ac eto ym 1950 gyda 'Difodiant'. Cyhoeddodd ei gyrfol gyntaf Cerddi yn 1958.

Roedd Euros Bowen yn hoffi gwahaniaethu rhwng dau ddull o farddoni, sef 'cerdd gyfathrach' a 'cerdd gyflwyniad'. Mewn cerddi cyfathrach mae'r bardd yn ei fynegi ei hun yn eithaf uniongyrchol, gan ychwanegu delweddau fel addurn. Mewn cerdd gyflwyniad mynegir y cyfan trwy ddelweddau, y delweddau yw hanfod y dweud. Yn ôl Euros Bowen cerddi cyflwyniad yw ei gerddi ef. Mae hynny'n esbonio pam fod rhai yn ei gyhuddo o fod yn fardd 'tywyll' neu 'astrus'. Ond mynnai'r bardd fod math arbennig o eglurder yn perthyn i gerdd gyflwyniad. ac y dylai'r darllenydd ymateb i'r berthynas rhwng delweddau. Mynnai Euros Bowen ei hun fod ;modd gwerthfawrogi a mwynhau cerdd heb ei "deall" yn iawn'. Bardd a oedd yn arddel y ffydd Gristnogol oedd Euros Bowen; a gweledigaeth gadarnhaol a gyhoeddir yn ei gerddi.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Cerddi (1958)
  • Cerddi Rhydd (1961)
  • Myfyrion (1963)
  • Cylch o Gerddi (1970)
  • Achlysuron (1971)
  • Elfennau (1972)
  • Poems (1974)
  • Cynullion (1976)
  • O'r Corn Aur (1977)
  • Trin Cerddi (1978) [trafod ei gerddi ei hun]
  • Amrywion (1980)
  • Dan Groes y Deau (1980)
  • Masg Minos (1981)
  • Gwynt yn y Canghennau (1982)
  • O Bridd i Bridd (1983)
  • Buarth Bywyd (1986)
  • Goleuni'r Eithin (1986)
  • Oes y Medwsa (1987)
  • Lleidr Tân (1989)
  • Dathlu Bywyd (1990)

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Thomas, Patrick. "Bowen, Euros (1904–1988)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/61337.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  2. Gwefan BBC Cymru; adalwyd 16 Ionawr 2013