Diwydiant
Yn gyffredinol, mae diwydiant yn grŵp o fusnesau sydd yn rhannu dull tebyg o gynhyrchu elwau.[1]
Caiff diwydiant ei rannu gan economegwyr yn bedwar sector:
- Diwydiant cynradd — cael deunyddiau crai o'r ddaear, e.e. mwyngloddio, ffermio,
- Diwydiant eilaidd — gweithgynhyrchu, e.e. ffatri ceir,
- Diwydiant trydyddol — gwasanaethau, e.e. addysg, meddygaeth,
- Diwydiant cwaternaidd — gwaith ymchwil a gwyddonol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) industry. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Chwefror 2014.