Dansk Kulturinstitut
Mae'r Dansk Kulturinstitut (talfyrir i DKI; "Sefydliad Diwylliannol Denmarc") yn sefydliad annibynnol sydd â chytundeb fframwaith 4 blynedd gyda'r Weinyddiaeth Ddiwylliant y wladwriaeth. Mae'r sefydliad wedi bodoli ers 1940. Am fwy nag 80 mlynedd, y pwrpas fu hyrwyddo deialog rhyngddiwylliannol ar draws ffiniau cenedlaethol trwy gelfyddyd a diwylliant.[1] Mae Ei Uchelder Brenhinol y Dywysoges Mary yn noddwr Sefydliad Diwylliannol Denmarc. Camilla Mordhorst yw'r cyfarwyddwr.[2] Mae'r DKI yn aelod o'r European Union National Institutes for Culture.
Enghraifft o: | asiantaeth lywodraethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1940 |
Prif weithredwr | Camilla Mordhorst |
Sylfaenydd | Folmer Wisti |
Ffurf gyfreithiol | Fonde og andre selvejende institutioner |
Pencadlys | Vartov |
Gwefan | http://www.dankultur.dk/ |
Hanes
golyguSefydlwyd Sefydliad Diwylliannol Denmarc gan Folmer Wisti dan yr enw Det Danske Selskab (Cymdeithas Denmarc), a’i nod oedd creu cyd-ddealltwriaeth trwy wybodaeth am Ddenmarc a chyfnewid diwylliant, syniadau a phrofiadau ar draws ffiniau cenedlaethol. Ym 1989, newidiodd y Det Danske Selskab ei enw i Det Danske Kulturinstitut, ac ers 2016 i Dansk Kulturinstitut.
Sefydlwyd yr adrannau cyntaf dramor ym 1947. Heddiw, mae gan Sefydliad Diwylliannol Denmarc ei brif swyddfa yn Copenhagen a sefydliadau yn: Gwlad Belg (Brwsel), Latfia (Riga),[3] Rwsia (Saint Petersburg), Tsieina (Beijing), Brasil (Rio de Janeiro) ac India (Delhi Newydd). Yn ogystal, mae gan Sefydliad Diwylliant Denmarc brosiectau yn yr Wcráin, Twrci a Belarws.
Cennad
golyguMae'r DKI yn enghraifft o strategaeth ddiplomyddiaeth ddiwylliannol er hyrwyddo grym meddal Denmarc.
Ynghyd â phartneriaid Daneg a rhyngwladol, mae Sefydliad Diwylliannol Denmarc yn datblygu nifer fawr o ddigwyddiadau a phrosiectau sy'n berthnasol yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.
Trwy eu gwreiddiau lleol, mae gan y sefydliadau dramor lawer o wybodaeth am ddiwylliant y rhanbarth y maent yn gweithio ynddo, a rhwydwaith cryf yn y sector diwylliannol ac ymhlith sefydliadau cymdeithasol ac addysgol, awdurdodau a chyrff anllywodraethol.
Gweithgaredd
golyguMae gweithgareddau Sefydliad Diwylliannol Denmarc yn cynnwys:
- Cyngherddau gydag unawdwyr ac ensembles o Ddenmarc dramor
- Arddangosfeydd gydag artistiaid o Ddenmarc ac arddangosfeydd addysgiadol gyda phynciau cysylltiedig â chymdeithas, er enghraifft pensaernïaeth Denmarc, ysgol ac addysg ac amodau cymdeithasol
- Theatr, ffilm a dawns
- Cynadleddau a seminarau ar bynciau diwylliannol neu wyddor gymdeithasol - dramor ac yn Nenmarc
- Teithiau astudio i Ddenmarc ac oddi yno o fewn pynciau megis polisi cymdeithasol ac iechyd, addysg a diwylliannol. Yn ddelfrydol, mae'r teithiau astudio wedi'u hanelu at sefydliadau proffesiynol, awdurdodau a chymdeithasau gwladwriaethol, rhanbarthol a threfol
- Cynigion cyfnewid ac addysg barhaus i weithwyr o fewn yr ysgol, a meysydd diwylliannol, cymdeithasol ac iechyd, lle mae’r cyfranogwyr yn cael cipolwg ar fywyd bob dydd proffesiynol a diwylliannol ei gilydd
- Cyrsiau dysgu'r iaith Daneg - y rhan fwyaf dramor
- Llenyddiaeth
Sefydliadau tebyg
golyguMae Danske Kulturinstitut yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Anna Jenkinson (30 September 2005). "Europe's 200 Languages, Costly to EU, Are Hailed by Brussels". Bloomberg. Cyrchwyd 11 June 2012.
- ↑ "About us". Gwefan Dansk Instutut. Cyrchwyd 20 Mawrth 2023.
- ↑ "Dansk Kulturinstitut i Riga leder efter nye praktikanter". Dansk Institut Riga. Cyrchwyd 20 Mawrth 2023.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol y Dansk Kulturinstitut
- Sianel Youtube y Dansk Kulturinstitut
- Meet the EUNIC members: Danish Cultural Institute Sianel Youtube yr EU National Institutes for Culture - EUNIC