Dafydd ap Siencyn

bardd, herwr Lancastriaidd

Herwr a bardd oedd Dafydd ap Siencyn neu Dafydd ap Siencyn ap Dafydd ap y Crach (blodeuai tua 1450). Ei dad oedd Siancyn ap Dafydd ab Y Crach, a'i fam oedd Margred ferch Rhys, mab Rhys Gethin, cadfridog Owain Glyn Dŵr.[1]

Dafydd ap Siencyn
Man preswylNant Conwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, person milwrol Edit this on Wikidata
Blodeuodd1450 Edit this on Wikidata
LlinachTuduriaid Penmynydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Yng nghyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau, roedd Dafydd, oedd yn berthynas i Owain Tudur, yn gefnogwr plaid y Lancastriaid. Pan droes y rhyfel yn erbyn y Lancastriaid, aeth Dafydd yn herwr. Bu'n byw yng Nghoed Carreg y Gwalch, ger Llanrwst, am flynyddoedd. Dywedir iddo ddal Castell Harlech gyda Robert ap Meredudd. Gyda Ieuan ap Rhobert ap Maredudd, cadwodd Nantconwy yn erbyn y brenin hyd 1468, ac anrheithiodd rannau o Sir Ddinbych. Yn 1468 daeth byddin Iorcaidd dan William Herbert, Iarll Penfro i feddiannu'r ardal.

Derbyniodd bardwn yn 1468, ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn Gwnstabl Castell Conwy, wedi iddo ladd ei ragflaenydd. Dywedir i Dafydd farw o glwyfau a gafodd mewn ffrwgwd, ac iddo gyfansoddi dau englyn ar ei wely angau. Cadwyd cerddi iddo gan Ieuan ap Gruffydd Leiaf a Tudur Penllyn, ac mae rhywfaint o farddoniaeth gan Dafydd ei hun wedi ei gadw: cywydd ateb i Dudur Penllyn a chywyddau moliant i Forus Wyn o Foelyrch a Roger Kynaston.

Mewn llenyddiaeth ddiweddar, mae'n ymddangos yn Dafydd ab Siencyn yr herwr, a Rhys yr arian daear: dwy ramant Gymreig gan Elis o'r Nant (Ellis Pierce), a gyhoeddwyd yn 1905. Yn ddiweddarach, ef yw arwr cyfres o nofelau hanesyddol gan Emrys Evans. Cyhoeddwyd y rhain gan Gwasg Carreg Gwalch, a enwyd ar ôl y coed lle bu'n llochesu.

Gellir gweld sbardun y dywedir ei bod yn eiddo i Dafydd yn eglwys y plwyf, Llanrwst.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 5 Rhagfyr 2014

Llyfryddiaeth

golygu
  • Evans, Emrys, Dafydd ap Siencyn: y gwr a'i gyfnod (Gwasg Carreg Gwalch, 1983)