Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
Sefydlwyd Cymdeithas Lyfrau Ceredigion (CLC) yn 1954. Y rheolwr yw Dylan Williams. Maent yn arbenigo mewn argraffu llyfrau â diddordeb i Geredigion, a llyfrau plant yn y Gymraeg, gan gynnwys addasiadau o lyfrau mewn ieithoedd eraill a llyfrau gwreiddiol. Prynodd Cymdeithas Lyfrau Ceredigion y cwmni recordiau Welsh Teldisc, tua 1974 gan etifeddu catalog o recordiau a hawliau caneuon gan artistaid amrywiol gan gynnwys Dafydd Iwan, Jac a Wil, Triawd y Coleg, Ritchie Thomas, a Hogia Llandegai.
Enghraifft o: | busnes, cyhoeddwr ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1954 ![]() |
Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |

Daeth Cymdeithas Lyfrau Ceredigion i ben yn 2009, pan brynwyd y wasg gan Wasg Gomer.
Gwobrau ac Anrhydeddau
golygu- 2005 - Gwerthwr Gorau – Plant, Jac y Jwc ar y Fferm, Dylan Williams a Gordon Jones
- 2007 - Cynllun Clawr Gorau'r Nadolig, Hogan Mam, Babi Jam, Emily Huws
- 2007 - Dylunio a Chynhyrchu, Y Golygiadur, Rhiannon Ifans
Dolenni allanol
golygu- Dogfenni ar gael Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback ar Rwydwaith Archifau Cymru