Nofel fer gan Bethan Gwanas yw Bryn y Crogwr a gyhoeddwyd yn 2015 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Bryn y Crogwr
AwdurBethan Gwanas
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi27 Chwefror 2015
ArgaeleddAr gael
ISBN9781784611149
GenreFfuglen
CyfresStori Sydyn

Dyma un o gyfrolau'r gyfres Stori Sydyn. Nofel arswyd yw hi am goediwr sy'n cael profiadau rhyfedd wrth drin hen dderwen sy'n mynd 'nôl i Owain Glyn Dŵr.

Daw Bethan o Rydymain, Meirionnydd ychydig filltiroedd o fferm Gwanas lle y'i magwyd. Graddiodd mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn gwneud amryw swyddi, yn cynnwys gweithio gyda'r VSO yn Nigeria. Mae ar hyn o bryd yn cyflwyno'r rhaglen Ar y Lein ar S4C. Mae’n un o nofelwyr mwyaf toreithiog Cymru ac yn wyneb cyfarwydd ar raglenni garddio S4C.


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017