Belenus
Duw iachaol Celtaidd hynafol yw Belenus (Galeg: Belenos, Belinos). Addolid Belenus hyd Gorynys yr Eidal i Ynysoedd Prydain, gyda'r brif gysegrfa yn Aquileia. Drwy interpretatio romana, cysylltir Belenus ag Apolon, er bod ganddo beth ymreolaeth yn ystod oes y Rhufeiniaid.[1][2]
Enw
golyguTystiolaeth
golyguMae'r theonym Belenus (neu Belinus), sy'n ffurf Ladin ar yr Aleg Belenos (neu Belinos), i'w weld mewn pum deg un arysgrif. Er bod y rhan fwyaf o'r arysgrifau hyn yn Aquileia (Friuli, yr Eidal), prif le ei gwlt, ceir tystiolaeth o'i enw mewn llefydd ymhle y trigai siaradwyr ieithoedd Celtaidd, gan gynnwys Gâl, Noricum, Illyria, Britain ac Iwerddon.[3]
Mae'r ieithydd Blanca María Prósper yn dadlau mai Belinos yw'r enw gwreiddiol siŵr o fod,[4] sydd hefyd i'w weld yn yr enw Belyn, sydd hefyd yn enw ar arweinydd Cymreig a fu farw yn 627 AD.[3] Mae amrywiadau eraill ar yr enw yn cynnwys Bellinus ac efallai Belus.[5] Efallai y bu'r Gwyddelod a'r Brythoniaid hynafol yn ei adnabod yn Bel, Beli, a Bile.[6]
Etymoleg
golyguMae etymoleg y gair Belenos dal i fod yn aneglur. Cyfieithir ef yn draddodiadol yn 'y golau' neu 'y llachar', o'r bôn Proto-Indo-Ewropeg *bʰelH-, 'can, bân, gwyn'. Mae'r theori hwn yn boblogaidd oherwydd y interpretatio romana o Belenos yn 'Apolon Galiaidd', sy'n dduw ag iddo briodoleddau'r haul.[7][8]
Epithedau
golyguYng Ngâl a Phrydain hynafol, cysylltwyd Apolon â'r haul ac iacháu.[9] Mae sawl enw arall arno, gan gynnwys Belenus, Vindonnus, Grannus, Borvo, Maponos, a Moritasgos.[9][10]
Addolid y duw yn Apollo Belenus yn Sainte-Sabine (Bourgogne), lle addolwyd ef gan bererinion sâl.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Schrijver, P. (1999). "On Henbane and Early European Narcotics" (yn en). zcph 51 (1): 17–45. doi:10.1515/zcph.1999.51.1.17. ISSN 0084-5302. https://www.degruyter.com/document/doi/10.1515/zcph.1999.51.1.17/html.
- ↑ Koch, John T., gol. (2006). Celtic culture: a historical encyclopedia. Santa Barbara, Calif.: ABC-CLIO. ISBN 978-1-85109-440-0.
- ↑ 3.0 3.1 Birkhan 2006, t. 195.
- ↑ Prósper 2017, t. 258.
- ↑ MacKillop 2004, s.v. Belenus.
- ↑ Leeming 2005, t. 48.
- ↑ Schrijver 1999, tt. 24–25.
- ↑ Delamarre 2003, t. 72.
- ↑ 9.0 9.1 Aldhouse-Green 1997, tt. 30–31.
- ↑ Nicole Jufer & Thierry Luginbühl (2001). Les dieux gaulois : répertoire des noms de divinités celtiques connus par l'épigraphie, les textes antiques et la toponymie. Paris: Editions Errance. ISBN 2-87772-200-7.