Nawddseintiau'r Hen Ogledd
Dyma rhestr o seintiau o'r Hen Ogledd, y deyrnasoedd Prydeinig: Elmet, Rheged, Gododdin, Manaw, Lleuddiniawn ac Ystrad Clud.
Cynderyn
golyguRoedd Sant Cynderyn neu Mungo (518-614) yn fab i Taneu, Tywysoges y Gododdin. Bu farw Cynderyn yn 612-614. Daeth Taneu yn feichiog ar ôl cael ei threisio gan Owain mab Urien. Yn Ystrad Clud, lledaenodd Sant Cynderyn gristnogaeth i'r Alban. Ef yw nawddsant Glasgow, a chysegrwyd y "St Mungo Museum of Religious Life and Art" yn ei enw.[1].
Denyw
golyguRoedd Denyw yn fam i Cynderyn ac yn dywysoges o'r 6ed ganrif. Ganed Denyw yn Gododdin yn yr Hen Ogledd. Ar ôl ei thaflu o Traprain Law, yn Lleuddiniawn (Lothian), mae Denyw yn teithio i Culross, lle rhoddodd enedigaeth i Cynderyn.
Padrig
golygu- Prif: Padrig
Daeth Sant Padrig (385- 461) o'r Hen Ogledd yn wreiddiol yn y 5g. Yn ôl un chwedl, pan oedd Padrig yn 16 oed, cipiwyd ef gan fôr-ladron. Aeth y môr-ladron â Padrig i'r Irweddon. Ar ôl llawer o amser dychwelodd i Gymru lle ordeiniwyd ef. Dychwelodd drachefni i Irweddon a chyflawnodd wyrthiau fel gwaredu nadroedd o'r ynys.[2].
Ke
golyguRoedd Ke yn sant o'r 5ed ganrif. Dywedir bod Ke yn fab i'r Brenin Leuddun o Lleuddiniawn ac yn esgob yn yr Hen Ogledd cyn teithio i Gymru, Cernyw a Llydaw. Edmygir ef yn y lleoedd hyn[3]. Mae Eglwys Sant Ke o'r 17eg ganrif yn Saint-Ke-Perroz, Llydaw [4].
Oswallt a Sant Cwthbert
golygu- Daw'r saint yn wreiddiol o'r hyn a elwir heddiw'n Lloegr, ond mae enwau Cymraeg neu Gymbrieg (yr iaith a siaradwyd cyn y Gymraeg) ar yr ardal. Mae'n bosib bod rhai pobl o'r Hen Ogledd wedi addoli Oswallt a Cwthbert. Fe'u cofnodir mewn testunau Hen Gymraeg gyda 'gos-' o flaen eu henwau, fel Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Du Gaerfyrddin.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bromwich, Rachel (2006). Trioedd Ynys Prydein. University of Wales Press. t. 230.
- ↑ O'Raifeartaigh, Tarlach (2021). Saint Patrick (yn Saesneg/English). Encyclopedia Britannica.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Llyfrgell Genedlaethol Cymru - National Library of Wales : Beunans Ke". web.archive.org. 2012-09-22. Cyrchwyd 2025-01-30.
- ↑ "Eglise paroissiale - Saint-Quay-Perros". Office de Tourisme de la Côte de Granit Rose (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2025-01-30.