Monty Python's Flying Circus

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 06:45, 29 Ionawr 2025 gan Llywelyn2000 (sgwrs | cyfraniadau)

Cyfres gomedi o sgetsis swreal o Loegr oedd Monty Python's Flying Circus (a elwir yn fwy cyffredinol yn Monty Python) a redodd am bedair cyfres rhwng 1969 a 1974. Roedd y sioe yn nodedig am y steil o gomedi arbennig, a oedd yn cynnwys sgetshis gwirion ac hurt, heb linellau clo ac yn gyfuniad o hiwmor geiriol a gweledol.

Monty Python’s Flying Circus
Crëwyd gan Graham Chapman
John Cleese
Terry Gilliam
Eric Idle
Terry Jones
Michael Palin
Serennu Graham Chapman
John Cleese
Terry Gilliam
Eric Idle
Terry Jones
Michael Palin
Carol Cleveland
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 4
Nifer penodau 45
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 30-40 muned
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC1
Darllediad gwreiddiol 5 Hydref 19695 Rhagfyr 1974
Dolenni allanol
Proffil IMDb

Mae'n serennu Graham Chapman, John Cleese, Eric Idle, Terry Jones, Michael Palin, a Terry Gilliam. Recordiwyd y bennod gyntaf gan gwmni BBC yn Lloegr ar 7 Medi 1969 a gwelodd olau dydd am y tro cyntaf ar 5 Hydref ar BBC1, gyda 45 o benodau yn cael eu darlledu dros bedair cyfres o 1969 i 1974, ynghyd â dwy bennod ar gyfer teledu Almaeneg. Rhyddhawyd addasiad ffilm o sawl sgets, And Now for Something Totally Different, ym 1971.

Yn ôl llawer o feirniaid ffilm, roedd y gyfres yn unigryw am ei defnydd o sefyllfaoedd abswrd, a'i hiwmor llawn ensyniadau, a sgetsis heb linellau clo. Rhannwyd y sgetsys byw gydag animeiddiadau gan Gilliam, yn aml yn cyfuno gyda'r actio byw. Roedd y fformat cyffredinol a ddefnyddiwyd ar gyfer y gyfres yn dilyn ac yn ymhelaethu ar yr arddull a ddefnyddiwyd gan Spike Milligan yn ei gyfres arloesol Q..., yn hytrach na fformat y sioe sgets draddodiadol. Mae prif berfformwyr y Pythons yn chwarae'r rhan fwyaf o gymeriadau'r gyfres, gydag aelodau'r cast cefnogol gan gynnwys Carol Cleveland (y cyfeirir ati gan y tîm fel y "Seithfed Python" answyddogol, Connie Booth (gwraig gyntaf Cleese), cynhyrchydd y gyfres Ian MacNaughton, Ian Davidson, cerddor Neil Innes, a 'Fred Tomlinson a'r Fred Tomlinson Singers' am ganeuon.[1][2]

Daeth y rhaglen i fodolaeth ar ôl i’r chwe Python gyfarfod â’i gilydd yn y brifysgol, ac mewn amryw o raglenni radio a theledu yn y 1960au, gan geisio gwneud sioe gomedi newydd yn wahanol i unrhyw beth arall ar deledu gwledydd Prydain. Roedd llawer o hiwmor y gyfres yn targedu hynodion bywyd Prydain, yn enwedig bywyd proffesiynol, yn ogystal ag agweddau ar wleidyddiaeth. Mae eu comedi yn aml yn hynod ddeallusol, gyda chyfeiriadau gwallgof niferus at athronwyr a llenorion a'u gweithiau. Bwriad y tîm oedd i'w hiwmor fod yn amhosib i'w gategoreiddio, a llwyddodd mor llwyr fel y dyfeisiwyd yr ansoddair "Pythonesque" i'w ddiffinio. Nid oedd eu hiwmor bob amser yn cael ei ystyried yn briodol ar gyfer teledu gan y BBC, gan arwain at rywfaint o sensoriaeth yn ystod y drydedd gyfres e.e. sŵn rhech. Gadawodd Cleese y sioe yn dilyn y gyfres honno, a chwblhaodd gweddill y Pythons y bedwaredd gyfres derfynol, cyfres fyrrach, cyn dod â'r sioe i ben.

Daeth y sioe yn boblogaidd iawn yng ngwledydd Prydain, ac ar ôl methu â denu cynulleidfa yn yr Unol Daleithiau i ddechrau, ond enillodd ei blwy ym 1974. Arweiniodd llwyddiant y rhaglen ar ddwy ochr yr Iwerydd at deithiau byw gan y Pythons a chrewyd tair ffilm ychwanegol, tra bod yr actorion unigol yn ffynnu mewn gyrfaoedd unigol. Bu Monty Python yn ddylanwad mawr ar gomedi yn ogystal ag mewn diwylliant poblogaidd. Cafodd yr iaith raglennu digidol Python ei henwi gan Guido van Rossum ar ôl y sioe.

Trosolwg o'r gyfres

Gwnaed cyfanswm o 45 pennod o Flying Circus Monty Python ar draws pedair cyfres.List of Monty Python's Flying Circus episodes

 
Gellir gweld troed y Python Foot enwog yma yn ei gyd-destun gwreiddiol yng nghornel chwith isaf Venus, Cupid, Folly and Time gan Agnolo Bronzino, yn Oriel Genedlaethol, Llundain
 
Agos y droed

Cynhyrchu

Cynhyrchwyd pum pennod gyntaf y gyfres gan John Howard Davies, gyda Davies yn gyfarwyddwr stiwdio, ac Ian MacNaughton yn gweithredu fel cyfarwyddwr lleoliad. O'r chweched bennod ymlaen, daeth MacNaughton yn gynhyrchydd ac unig gyfarwyddwr y gyfres. Roedd aelodau rheolaidd eraill y tîm yn cynnwys Hazel Pethig (gwisgoedd), Madelaine Gaffney (colur) a John Horton (dylunydd effeithiau fideo). Priododd Maggie Weston, a oedd yn gweithio ar golur a dylunio, â Gilliam ym 1973. Ffilmiwyd y gyfres yn bennaf mewn stiwdios yn Llundain a lleoliadau cyfagos, traethau a phentrefi yng Ngwlad yr Haf, Norwich ac ynys Jersey.

Derbyniad

Ar ôl darlledu'r bennod gyntaf, argraffodd papurau newydd gwledydd Prydain adolygiadau byr o'r rhaglen newydd. Roedd gan yr adolygwyr farn gymysg. Ysgrifennodd un fod y sioe yn "hurt a gwamal", ac nad oedd yn "cynnig dim byd newydd na chyffrous iawn".[3] Disgrifiodd un arall y sioe fel un "joyably Goonish", gan ddweud nad oedd y deunydd i gyd yn "syfrdanol" ond bod "digon dan ei sang yn y 30 munud i godi ychydig o chwerthin."[4] Roedd colofnydd y Reading Evening Post yn fwy brwdfrydig, gan alw'r sioe yn "gomedi mawr ei hangen" a nodi bod "y chwerthin go iawn, i mi, yn dod o'r cartŵn gwallgof a'r gwaith ffoto-montage".[5]

Wrth i'r gyfres barhau, daeth adolygiadau yn fwy cadarnhaol. Ar ôl y drydedd bennod, disgrifiodd colofnydd teledu’r Guardian y sioe fel “yn ddi-os, dyma uchafbwynt penwythnos llawer o wylwyr”, gan ddweud bod yr hiwmor yn “whacky" yn hytrach nag yn ddychanol. [6] Wythnos yn ddiweddarach, rhoddodd adolygydd yr Observer "argymhelliad cryf" i'r gyfres, gan ddweud "Mae'r deunydd, er gwaethaf tueddiad i ymestyn syniad da y tu hwnt i'w hyd naturiol, o safon uchel, ond yr hyn sy'n codi'r sioe allan o'r rhigol anrhydeddus [arferol] yw ei ddefnydd rhyfeddol o gartwnau animeiddiedig."[7] Fodd bynnag, nid oedd y farn gadarnhaol hon yn unfrydol o bell ffordd. Cwynodd adolygydd yr Evening Standard fod "yr wythnos diwethaf bron wedi malu fy mrwdfrydedd a'm teyrngarwch am byth drwy drosglwyddo nifer o sgits digalon nad oedd fawr mwy na slapstic amlwg." [8]

Dolenni allanol

Monty Python  
Aelodau: Graham ChapmanJohn CleeseTerry GilliamEric IdleTerry JonesMichael Palin
Ffilmiau: And Now For Something Completely DifferentMonty Python and the Holy GrailMonty Python's Life of BrianMonty Python Live at the Hollywood BowlMonty Python's The Meaning of Life
  1. "Fred Tomlinson, singer on Monty Python – obituary". The Daily Telegraph. 2016-08-02. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Ionawr 2022. Cyrchwyd 2016-08-15.
  2. Slotnik, Daniel E. (2016-08-04). "Fred Tomlinson, Singer Who Led a 'Monty Python' Troupe, Dies at 88". New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 August 2016. Cyrchwyd 2016-08-15.
  3. K.A.B. (1969-10-06). "Who do they think can watch?". Coventry Evening Telegraph. t. 3. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 November 2022. Cyrchwyd 2022-11-12.
  4. T.J.D. (1969-10-06). "Play that needed a touch of Hitchcock". Leicester Mercury. t. 8. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 November 2022. Cyrchwyd 12 November 2022.
  5. Slater, Ralph (1969-10-06). "At last! A few laughs". Evening Post. t. 2. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 November 2022. Cyrchwyd 12 November 2022.
  6. Reynolds, Stanley (1969-10-20). "Comedy and not so funny". The Guardian. t. 6. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 November 2022. Cyrchwyd 12 November 2022.
  7. Melly, George (1969-10-26). "Watching the bits and pieces". The Observer. t. 33. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 November 2022. Cyrchwyd 12 November 2022.
  8. Shulman, Milton (1969-11-05). "Whatever happened to Monty Python? Well, I'm glad you asked that question..." Evening Standard. t. 21. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 May 2024. Cyrchwyd 12 November 2022.