Roberto Arlt
Nofelydd, awdur straeon byrion, dramodydd, a newyddiadurwr yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin oedd Roberto Arlt (2 Ebrill 1900 – 26 Gorffennaf 1942).[1] Roedd yn ffigur pwysig yn llên yr Ariannin yn ystod hanner cyntaf yr 20g, ac yn nodedig am ei gyfraniad at nofel yr absẃrd.
Roberto Arlt | |
---|---|
Ganwyd | Roberto Emilio Godofredo Arlt 26 Ebrill 1900 Buenos Aires |
Bu farw | 26 Gorffennaf 1942 o ataliad y galon Buenos Aires |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Galwedigaeth | llenor, dramodydd, newyddiadurwr, awdur storiau byrion, nofelydd |
Adnabyddus am | Mad Toy, El crimen casi perfecto |
Plant | Mirta Arlt |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Roberto Godofredo Christophersen Arlt yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, yn fab i Almaenwr ac Eidales. Almaeneg oedd iaith yr aelwyd.[2] Er yr oedd yn ddarllenwr awchus, cafodd Roberto ei ddiarddel o'r ysgol yn wyth oed. Teimlodd yn estron yng nghymdeithas yr Ariannin, a threuliodd ei amser naill ai'n darllen nofelau Rwsiaidd a gwledydd eraill neu yn nhafarnau a chaffis Buenos Aires yng nghwmni cymeriadau tlodaidd ac amheus yr olwg, y fath o gymeriadau sy'n poblogi ei ffuglen. Cyhoeddodd ei stori gyntaf yn 14 oed, yn Revista Popular. Gadawodd ei gartref yn 16 oed i weithio mân swyddi gyda'r nod o gychwyn ar yrfa lenyddol. Yn ystod ei arddegau, dechreuodd gyhoeddi ei newyddiaduraeth er mwyn ennill digon o arian ac enw iddo'i hun i ymuno â'r cylchoedd llenyddol. Gwasanaethodd yn y lluoedd arfog yn Córdoba yn 1919–20, a mynychodd Ysgol Fecaneg y Llynges.[3]
Newyddiaduraeth
golyguCafodd ei gynghori o 1925 i 1927 gan Ricardo Güiraldes a chyhoeddodd erthyglau yng nghylchgrawn Güiraldes, Prow. Ysgrifennodd golofn ddyddiol yn y papur newydd El mundo dan y pennawd "Aguafuertes porteñas" am 14 mlynedd, o 1928 tan ei farwolaeth. Bu El Mundo yn gwerthu dwywaith y nifer o gopïau ar y diwrnod a gyhoeddwyd ei golofn nac ar ddiwrnodau eraill yr wythnos. Ysgrifau portread o drigolion Buenos Aires (porteñas) ydynt sy'n disgrifio pobl a bywyd y ddinas mewn arddull eironig a phicarésg. ac ysgrifau eironig ydynt o drigolion a bywydBuenos Aires. Wedi ei farwolaeth, cawsant eu casglu a'u cyhoeddi ar ffurf llyfrau, Aguafuertes porteñas (1950) a Nuevas aguafuertes porteñas (1960).
Arlt y nofelydd
golyguYsgrifennodd Arlt pum nofel, y cyntaf a'r ail ohonynt El diario de un morfinómano (1920) a El juguete rabioso (1926). Awyrgylch grotésg sydd gan ei straeon, yn llawn cymeriadau gofidus a gwallgof sy'n gwrthryfela yn erbyn cymdeithas, ac yn aml gyda phortreadau o fyd y butain a'r isddiwylliant troseddol. Gwelir ysbrydoliaeth gryf gan Dostoiefsci yn ei nofelau arbrofol a mynegiadol, Los siete locos (1929) a'r dilyniant Los lanzallamas (1931). Ei nofel olaf oedd El amor brujo (1931).
Arlt y dramodydd
golyguTrodd Arlt ei sylw at y theatr yn y 1930au, a chyhoeddodd ddeg o ddramâu yn ystod ei oes. Y goreuon ydy Trescientos millones (1932), a berfformiwyd yn gyntaf yn y Teatro del Pueblo yn Buenos Aires yn 1932, a Saverio el cruel (1936), nas perfformiwyd tan 1956.
Ei gyfnod yn Sbaen
golyguAeth Arlt i Sbaen yn 1935 fel gohebydd El Mundo, ac ysgrifennodd gyfres o erthyglau am argraff y wlad arno. Cyhoeddwyd y rheiny ar ffurf llyfr, Aguafuertes españolas, yn 1936.
Bu farw yn Buenos Aires yn 42 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Roberto Arlt. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Ebrill 2019.
- ↑ "Roberto Arlt" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 18 Ebrill 2019.
- ↑ "Arlt, Roberto" yn Contextual Encyclopedia of World Literature (Gale, 2009). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 18 Ebrill 2019.
Darllen pellach
golygu- Nira Etchenique, Roberto Arlt (Buenos Aires: LaMandrágora, 1962).
- Jack M. Flint, The Prose Works of Roberto Arlt; A Thematic Approach (Durham: University of Durham, 1985).
- Paul Gray, "Metatheatre: Roberto Arlt's Vehicle Toward the Public's Awareness of an Art Form", Latin American Theatre Review (1990).
- Aden Hayes, Roberto Arlt, la estrategia de su ficción (1981).
- Gerardo Mario Goloboff, Genio y figura de Roberto Arlt (1988).
- José Morales Saravia, Barbara Schuchard, a Wolfgang Matzat, Roberto Arlt: Una modernidad argentina (Madrid: Iberoamericana, 2001).
- James J. Troiano, "The Grotesque Tradition and the Interplay of Fantasy and Reality in the Plays of Roberto Arlt" Latin American Literary Review (1976).