Mayurasana (Y Paen)
Safle ioga (asan) yw Mayūrāsana (Sansgrit) neu'r Paen[1] lle mae'r corff yn cydbwyso fel tafol. Mae'n cael ei ddefnyddio mewn ioga hatha ac ioga modern ac fel ymarfer corff a gymnasteg gyda'r corff yn cael ei ddal yn llorweddol dros y dwylo. Mae'n un o'r asanas hynaf lle nad yw'r corff mewn asana eistedd.
Math o gyfrwng | asana |
---|---|
Math | asanas cydbwyso, ioga Hatha |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Geirdarddiad
golyguMae'r enw'n dod o'r geiriau Sansgrit mayūra (मयूर) sy'n golygu "y paun"[2] ac asana (आसन) sy'n golygu "ystum neu safle'r corff".[3]
Fe'i disgrifiwyd gyntaf yn y 10g yn y testun Vimānārcanākalpa. Mae'r Vāsiṣṭha Saṁhitā 1.76-7 hefyd yn nodi ei fod yn dileu pob pechod.[4]
Disgrifiad
golyguYn yr asana hwn mae'r corff yn cael ei godi fel ffon syth, lorweddol sy'n cael ei gynnal uwch y llawr gyda'r dwylo, a phwysau'r corff cyfan ar y penelinoedd.[5]
Amrywiadau
golyguMae Hamsasana (Yr Alarch) yn union yr un fath â Mayurasana ac eithrio bod y dwylo'n cael eu gosod gyda'r bysedd yn pwyntio ymlaen.[6]
Croesir y coesau yn yr asana Padma Mayurasana (Lotws y Paen) fel.[7]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Yoga Journal - Peacock Pose". Cyrchwyd 9 April 2011.
- ↑ "Mayurasana - AshtangaYoga.info". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-26. Cyrchwyd 9 April 2011.
- ↑ Sinha, S. C. (1 Mehefin 1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9. Cyrchwyd 9 April 2011.
- ↑ Mallinson, James; Singleton, Mark (2017). Roots of Yoga. Penguin Books. tt. 100–101, 105. ISBN 978-0-241-25304-5. OCLC 928480104.
- ↑ Iyengar 1979, tt. 282–284.
- ↑ Iyengar 1979, tt. 284–285.
- ↑ Ramaswami, Srivatsa; Krishnamacharya, T. (3 Mehefin 2005). The complete book of vinyasa yoga: an authoritative presentation, based on 30 years of direct study under the legendary yoga teacher Krishnamacharya. Da Capo Press. t. 208. ISBN 978-1-56924-402-9. Cyrchwyd 9 April 2011.
Ffynonellau
golygu- Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks. ISBN 978-1855381667.
- Jain, Andrea (2015). Selling Yoga : from Counterculture to Pop culture. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-939024-3. OCLC 878953765.
- Newcombe, Suzanne (2019). Yoga in Britain: Stretching Spirituality and Educating Yogis. Bristol, England: Equinox Publishing. ISBN 978-1-78179-661-0.