Gnaeus Domitius Corbulo
Cadfridog Rhufeinig oedd Gnaeus Domitius Corbulo (tua 7 - 67). Ganed ef yn yr Eidal; roedd ei dad yn aelod o Senedd Rhufain. Bu'n gonswl yn 40 dan yr ymerawdwr Caligula, oedd yn frawd-yng-nghyfraith iddo.
Gnaeus Domitius Corbulo | |
---|---|
Ganwyd | c. 7 Peltuinum |
Bu farw | 67 o gwaediad Corinth |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | llywodraethwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, seneddwr Rhufeinig |
Tad | Gnaeus Domitius Corbulo |
Mam | Vistilia |
Priod | Cassia Longina |
Plant | Domitia Longina, Domitia Corbula |
Yn 47, dan yr ymerawdwr Claudius, daeth yn bennaeth byddinoedd Germania Inferior, a bu'n ymladd yn erbyn y Cherusci a'r Chauci. Yn ystod y cyfnod yma, gorchymynodd adeiladu camlas i gysylltu Afon Rhein ac Afon Meuse.
Yn 52, gwnaed ef yn lywodraethwr talaith Asia. Wedi marwolaeth Claudius yn 54, gyrroedd yr ymerawdwr newydd, Nero, ef i'r dwyrain i ddelio a thrafferthion yn Armenia. Yn 58, ymosododd ar Tiridates I, brenin Armenia, oedd yn frawd i Vologases I, brenin Parthia. Cipiodd Corbulo ddinasoedd Artaxata a Tigranocerta, a gwnaeth Tigranes, oedd yn ufudd i Rufain, yn frenin Armenia.
Yn 61 ymosododd Tigranes ar Adiabene, rhan o Parthia, a dechreuodd rhyfel arall. Gyrrwyd Lucius Caesennius Paetus, llywodraethwr Cappadocia, i ddelio a'r mater, ond gorchfygwyd ef ym mrwydr Rhandeia yn 62. Dychwelodd Corbulo fel pennaeth y fyddin, ac yn 63 croesodd Afon Euphrates. Ildiodd Tiridates heb frwydr.
Erbyn hyn, roedd nifer o gynllwynion yn erbyn Nero yn Rhufain, ac roedd mab-yng-nghyfraith Corbulo, Lucius Annius Vinicianus, ynghlwm yn un o'r rhain. Daeth Nero i amau Corbulo ei hun, ac yn 67 galwodd Corbulo ato i Wlad Groeg. Pan gyrhaeddodd Cenchreae, porthladd Corinth, rhoddwyd gorchymyn iddo i'w ladd ei hun, a gwnaeth yntau hynny.
Roedd Corbulo yn briod a Cassia Longina, a chawsant ddwy ferch. Daeth yr ieuengaf o'r ddwy, Domitia Longina, yn wraig yr ymerawdwr Domitian.